Canteen on Clifton Street, Caerdydd

Gwell cwrw Cymru na llaeth Lloegr?

Cymedrolwr: Jeni Wine

Rheolau’r seiat
Lle i drafod pob dim sy'n ymwneud â Bwyd a Diod. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Canteen on Clifton Street, Caerdydd

Postiogan Rhys » Llun 21 Ion 2008 10:01 am

Unrhywun wedi bod i'r Canteen on Clifton Street?

Bues i yno y penwythnos diwethaf ac yn hoff iawn o'r lle.

Mae'n gwerthu ei hun fel bwyty ar gyfer llysiewyr a veganiaid(?), ond mae prydau cig ar gael hefyd.

Mae'r fwydlen yn newid pob pythefnos, a dim ond dewis o dri cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin sydd yna.

Beth sy'n dda yw bod maint y prif ddim rhy fawr felly mae digon o le i dri cwrs. Mae 2 gwrs am £10 a 3 am £14 - rhesymol iawn.

Ac ar ben pob dim mae nhw'n chwarrae cerddoriaeth chwaethus hefyd, gan gynnwys fy ffefrynnau Groove Armada 8)
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2176
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 8:07 pm
Lleoliad: Caerdydd

Re: Canteen on Clifton Street, Caerdydd

Postiogan Dili Minllyn » Llun 21 Ion 2008 7:36 pm

Rhys a ddywedodd:Unrhywun wedi bod i'r Canteen on Clifton Street?

Diolch am hwnna, Rhys. Mae'r fwydlen yn edrych yn ddiddorol iawn. Dwi'n hoff iawn o Clifton Street beth bynnag - lle di-ffwdan, braf, lle mae pob math o bethau ar gael yn rhad.
Rhithffurf defnyddiwr
Dili Minllyn
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1181
Ymunwyd: Llun 11 Gor 2005 6:30 pm
Lleoliad: Uwchben Ynys Echni


Dychwelyd i Bwyd a Diod

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 5 gwestai

cron