Unrhywun wedi bod i'r Canteen on Clifton Street?
Bues i yno y penwythnos diwethaf ac yn hoff iawn o'r lle.
Mae'n gwerthu ei hun fel bwyty ar gyfer llysiewyr a veganiaid(?), ond mae prydau cig ar gael hefyd.
Mae'r fwydlen yn newid pob pythefnos, a dim ond dewis o dri cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin sydd yna.
Beth sy'n dda yw bod maint y prif ddim rhy fawr felly mae digon o le i dri cwrs. Mae 2 gwrs am £10 a 3 am £14 - rhesymol iawn.
Ac ar ben pob dim mae nhw'n chwarrae cerddoriaeth chwaethus hefyd, gan gynnwys fy ffefrynnau Groove Armada