Tudalen 1 o 2

Bwyta 'pasta sauces' yn oer?

PostioPostiwyd: Llun 18 Chw 2008 11:41 pm
gan Dai dom da
Bach o ponder fan hyn, a yw e'n saff i fwyta pasta sauces wedi'i goginio (gyda'r pasta), yn oer y dydd ar ol ni? Wedi'i cadw yn y fridge etc. Pethe fel loyd grossman, seeds of change, dolmio dwi'n sharad amdano, ac heb unrhyw gig. Diolch yn dalpe

Re: Bwyta 'pasta sauces' yn oer?

PostioPostiwyd: Maw 19 Chw 2008 9:31 am
gan Manon
'Dwi'n byta pasta sauces yn oer- Dim syth allan o'r jar na'm byd :winc:
'Dwi'n meddwl bod o'n berffaith saff...

Re: Bwyta 'pasta sauces' yn oer?

PostioPostiwyd: Maw 19 Chw 2008 9:32 am
gan ceribethlem
Dai dom da a ddywedodd:Bach o ponder fan hyn, a yw e'n saff i fwyta pasta sauces wedi'i goginio (gyda'r pasta), yn oer y dydd ar ol ni? Wedi'i cadw yn y fridge etc. Pethe fel loyd grossman, seeds of change, dolmio dwi'n sharad amdano, ac heb unrhyw gig. Diolch yn dalpe

Bydden i'n tybio eu bod yn saff y dwrnod wedyn, am nad oes cig ynddyn nhw. Aildwymo cigoedd yw'r prif broblem ondife.

Re: Bwyta 'pasta sauces' yn oer?

PostioPostiwyd: Maw 19 Chw 2008 10:13 am
gan Jon Bon Jela
Wrth gwrs, bydda' i ddim yn dueddol o'u defnyddio (nid comon mohonof)ond mae rhai yn 'cadw' yn well na'i gilydd. Mae pethau pesto yn para oesau, ond tridie wedi eu hagor yw'r limit i fi i bethau tebyg mewn jar.

Mae gyda fi ddelwedd nawr o Manon yn bwyta Dolmio mas o jar gyda llwy a'r saws ar draws ei hwyneb... :lol:

Re: Bwyta 'pasta sauces' yn oer?

PostioPostiwyd: Maw 19 Chw 2008 10:43 am
gan ceribethlem
Jon Bon Jela a ddywedodd:Wrth gwrs, bydda' i ddim yn dueddol o'u defnyddio (nid comon mohonof)ond mae rhai yn 'cadw' yn well na'i gilydd. Mae pethau pesto yn para oesau, ond tridie wedi eu hagor yw'r limit i fi i bethau tebyg mewn jar.
Gwir, ond yn y cwestiwn oedd Dai Dom Da yn son am eu bwyta'r dwrnod wedyn, dwi ddim yn credu byddai problem gwneud hyn. Os oedd am eu bwyta ar ol y dwrnod wedyn, bydden i'n argymell edrych ar ochr y jar lle mae'n dweud consume within three days of opening neu beth bynnag.

Re: Bwyta 'pasta sauces' yn oer?

PostioPostiwyd: Maw 19 Chw 2008 11:55 am
gan Manon
Jon Bon Jela a ddywedodd:Mae gyda fi ddelwedd nawr o Manon yn bwyta Dolmio mas o jar gyda llwy a'r saws ar draws ei hwyneb... :lol:


Sexy, non? :lol:

Re: Bwyta 'pasta sauces' yn oer?

PostioPostiwyd: Maw 19 Chw 2008 7:44 pm
gan 7ennyn
Os ti'n eu cadw yn y ffrij, cadwa'r bwyd sydd wedi eu coginio wedi eu gorchuddio ar y silffoedd uchaf a bwyd amrwd ar y silffoedd isaf. Bydd hynny yn lleihau'r risg o draws-heintio, yn enwedig hefo cig. Dwi'n siwr ei bod hi'n berffaith saff cadw pasta a sos yn y ffrij am ddiwrnod neu ddwy ar ol ei goginio - wnaeth hynny rioed ddrwg i mi. Ond paid a'i ail-gynhesu fwy nag unwaith!

Re: Bwyta 'pasta sauces' yn oer?

PostioPostiwyd: Maw 19 Chw 2008 8:54 pm
gan Chip
Gobitho bod e'n iawn, dwi wedi bod yn bita'r saws yn syth o'r jar cyn cogionio ers oesoedd. dim wedi cael effai arnai :winc: (twich).
ydy yn well ei bita feb i coginio, neu wedi ei cogionio ers wythnos a hanner?

Re: Bwyta 'pasta sauces' yn oer?

PostioPostiwyd: Maw 19 Chw 2008 9:59 pm
gan Y Pesimist
Mae Dolmio yn hollol saff i fwyta yn oer allan o'r ffrij y diwrnod wedyn. Wedi gwneud yn gynharach yn y diwrnod pan yn llwgu a dim bwyd yn ty

Re: Bwyta 'pasta sauces' yn oer?

PostioPostiwyd: Mer 20 Chw 2008 10:52 am
gan Dai dom da
Un da! Diolch bobol. 8) Wes unrhyw un fan hyn yn 'replace-o' pasta gyda reis ambell waith? Dwi di bod yn neud na yn ddiweddar, a ma fe'n itha neis.