gan 7ennyn » Mer 20 Chw 2008 7:11 pm
Fyswn i'n cymeryd ychydig bach mwy o bwyll hefo reis. Rho fo yn y ffrij mor fuan a phosib ar ol ei goginio a bwyta fo o fewn diwrnod ar yr hiraf. Mae gronynnau reis yn gallu cario sborau bacteria peryglus sydd yn gallu gwrthsefyll cael eu berwi. Os wyt ti'n gadael reis wedi ei goginio i sefyll ar dymheredd ystafell, mae'r sborau yn deffro ac atgynhyrchu yn gyflym iawn gan gynhyrchu gwenwyn bwyd.