Tudalen 2 o 2
Re: Bwyta 'pasta sauces' yn oer?
Postiwyd:
Mer 20 Chw 2008 11:18 am
gan Jon Bon Jela
Dai dom da a ddywedodd:Un da! Diolch bobol.
Wes unrhyw un fan hyn yn 'replace-o' pasta gyda reis ambell waith? Dwi di bod yn neud na yn ddiweddar, a ma fe'n itha neis.
Do. Ond dwi'n gaeth i couscous a quinoa dyddie 'ma.
Re: Bwyta 'pasta sauces' yn oer?
Postiwyd:
Mer 20 Chw 2008 7:11 pm
gan 7ennyn
Fyswn i'n cymeryd ychydig bach mwy o bwyll hefo reis. Rho fo yn y ffrij mor fuan a phosib ar ol ei goginio a bwyta fo o fewn diwrnod ar yr hiraf. Mae gronynnau reis yn gallu cario sborau bacteria peryglus sydd yn gallu gwrthsefyll cael eu berwi. Os wyt ti'n gadael reis wedi ei goginio i sefyll ar dymheredd ystafell, mae'r sborau yn deffro ac atgynhyrchu yn gyflym iawn gan gynhyrchu gwenwyn bwyd.
Re: Bwyta 'pasta sauces' yn oer?
Postiwyd:
Mer 19 Maw 2008 9:25 pm
gan Leusa
Cymewch ofal hefo reis, ma'n gallu bod yn fwy peryg na chig.
Dai Dom Da, be am roi blast i dy bryd mewn meicrodon/
Re: Bwyta 'pasta sauces' yn oer?
Postiwyd:
Mer 19 Maw 2008 11:24 pm
gan Ray Diota
Leusa a ddywedodd:Cymewch ofal hefo reis, ma'n gallu bod yn fwy peryg na chig.
esbonier?
Re: Bwyta 'pasta sauces' yn oer?
Postiwyd:
Iau 20 Maw 2008 10:11 am
gan Rhodri Nwdls
Ray Diota a ddywedodd:Leusa a ddywedodd:Cymewch ofal hefo reis, ma'n gallu bod yn fwy peryg na chig.
esbonier?
Bacillus cereus, fy ffrind.
Peth ydi, be am fried rice? Dwi'n defnyddio reis y diwrnod cynt (os nad diwrnod cyn hynny) i wneud fried rice reit amal. Rioed di cael problam, ond eto dwi'n sdicio'r reis yn y ffrij yn o fuan ar ôl ei goginio.
Re: Bwyta 'pasta sauces' yn oer?
Postiwyd:
Iau 20 Maw 2008 10:16 am
gan Ray Diota
Rhodri Nwdls a ddywedodd:Ray Diota a ddywedodd:Leusa a ddywedodd:Cymewch ofal hefo reis, ma'n gallu bod yn fwy peryg na chig.
esbonier?
Bacillus cereus, fy ffrind.
Peth ydi, be am fried rice? Dwi'n defnyddio reis y diwrnod cynt (os nad diwrnod cyn hynny) i wneud fried rice reit amal. Rioed di cael problam, ond eto dwi'n sdicio'r reis yn y ffrij yn o fuan ar ôl ei goginio.
wel diaaaaawl, odd 'da fi ddim clem... on i'n dicing with death pan ges i'r risotto 'na i ginio ddoe!
Re: Bwyta 'pasta sauces' yn oer?
Postiwyd:
Iau 20 Maw 2008 10:20 am
gan Rhodri Nwdls
I fynd nôl at y pwnc - o'n i'n arfar bod reit hoff o frechdan Dolmio. Iym.
Re: Bwyta 'pasta sauces' yn oer?
Postiwyd:
Iau 20 Maw 2008 1:07 pm
gan Leusa
Ray Diota a ddywedodd:Leusa a ddywedodd:Cymewch ofal hefo reis, ma'n gallu bod yn fwy peryg na chig.
esbonier?
Ma'n ok, jyst fel ma gwefan Nwdls yn ddeud, oera'r reis dros ben yn syth (dora fo dan tap dwr oer am hir) a'i roi o yn y ffrij pronto.
Re: Bwyta 'pasta sauces' yn oer?
Postiwyd:
Maw 02 Medi 2008 3:12 pm
gan carreg
Ma reis yn gallu bod yn ofnadwy o berryg de - wel os dachi ddim yn ei ail-gnesu yn iawn - man iawn fyta fon oer ag arol ei ail-gnesu yn iawn UNWAITH!Fueshi yn sal ofnadwy yn yr ysbyty am 3 wythnos wedi i fi fyta reis odd dipyn bach yn dodgy!dodgy ground rhen reis ma chi!