Tudalen 2 o 2

Re: Bwyta 'pasta sauces' yn oer?

PostioPostiwyd: Mer 20 Chw 2008 11:18 am
gan Jon Bon Jela
Dai dom da a ddywedodd:Un da! Diolch bobol. 8) Wes unrhyw un fan hyn yn 'replace-o' pasta gyda reis ambell waith? Dwi di bod yn neud na yn ddiweddar, a ma fe'n itha neis.


Do. Ond dwi'n gaeth i couscous a quinoa dyddie 'ma.

Re: Bwyta 'pasta sauces' yn oer?

PostioPostiwyd: Mer 20 Chw 2008 7:11 pm
gan 7ennyn
Fyswn i'n cymeryd ychydig bach mwy o bwyll hefo reis. Rho fo yn y ffrij mor fuan a phosib ar ol ei goginio a bwyta fo o fewn diwrnod ar yr hiraf. Mae gronynnau reis yn gallu cario sborau bacteria peryglus sydd yn gallu gwrthsefyll cael eu berwi. Os wyt ti'n gadael reis wedi ei goginio i sefyll ar dymheredd ystafell, mae'r sborau yn deffro ac atgynhyrchu yn gyflym iawn gan gynhyrchu gwenwyn bwyd.

Re: Bwyta 'pasta sauces' yn oer?

PostioPostiwyd: Mer 19 Maw 2008 9:25 pm
gan Leusa
Cymewch ofal hefo reis, ma'n gallu bod yn fwy peryg na chig.
Dai Dom Da, be am roi blast i dy bryd mewn meicrodon/

Re: Bwyta 'pasta sauces' yn oer?

PostioPostiwyd: Mer 19 Maw 2008 11:24 pm
gan Ray Diota
Leusa a ddywedodd:Cymewch ofal hefo reis, ma'n gallu bod yn fwy peryg na chig.


esbonier? :?

Re: Bwyta 'pasta sauces' yn oer?

PostioPostiwyd: Iau 20 Maw 2008 10:11 am
gan Rhodri Nwdls
Ray Diota a ddywedodd:
Leusa a ddywedodd:Cymewch ofal hefo reis, ma'n gallu bod yn fwy peryg na chig.


esbonier? :?

Bacillus cereus, fy ffrind.

Peth ydi, be am fried rice? Dwi'n defnyddio reis y diwrnod cynt (os nad diwrnod cyn hynny) i wneud fried rice reit amal. Rioed di cael problam, ond eto dwi'n sdicio'r reis yn y ffrij yn o fuan ar ôl ei goginio.

Re: Bwyta 'pasta sauces' yn oer?

PostioPostiwyd: Iau 20 Maw 2008 10:16 am
gan Ray Diota
Rhodri Nwdls a ddywedodd:
Ray Diota a ddywedodd:
Leusa a ddywedodd:Cymewch ofal hefo reis, ma'n gallu bod yn fwy peryg na chig.


esbonier? :?

Bacillus cereus, fy ffrind.

Peth ydi, be am fried rice? Dwi'n defnyddio reis y diwrnod cynt (os nad diwrnod cyn hynny) i wneud fried rice reit amal. Rioed di cael problam, ond eto dwi'n sdicio'r reis yn y ffrij yn o fuan ar ôl ei goginio.


wel diaaaaawl, odd 'da fi ddim clem... on i'n dicing with death pan ges i'r risotto 'na i ginio ddoe! :ofn:

Re: Bwyta 'pasta sauces' yn oer?

PostioPostiwyd: Iau 20 Maw 2008 10:20 am
gan Rhodri Nwdls
I fynd nôl at y pwnc - o'n i'n arfar bod reit hoff o frechdan Dolmio. Iym.

Re: Bwyta 'pasta sauces' yn oer?

PostioPostiwyd: Iau 20 Maw 2008 1:07 pm
gan Leusa
Ray Diota a ddywedodd:
Leusa a ddywedodd:Cymewch ofal hefo reis, ma'n gallu bod yn fwy peryg na chig.


esbonier? :?


Ma'n ok, jyst fel ma gwefan Nwdls yn ddeud, oera'r reis dros ben yn syth (dora fo dan tap dwr oer am hir) a'i roi o yn y ffrij pronto.

Re: Bwyta 'pasta sauces' yn oer?

PostioPostiwyd: Maw 02 Medi 2008 3:12 pm
gan carreg
Ma reis yn gallu bod yn ofnadwy o berryg de - wel os dachi ddim yn ei ail-gnesu yn iawn - man iawn fyta fon oer ag arol ei ail-gnesu yn iawn UNWAITH!Fueshi yn sal ofnadwy yn yr ysbyty am 3 wythnos wedi i fi fyta reis odd dipyn bach yn dodgy!dodgy ground rhen reis ma chi!