Gradell/ Maen

Gwell cwrw Cymru na llaeth Lloegr?

Cymedrolwr: Jeni Wine

Rheolau’r seiat
Lle i drafod pob dim sy'n ymwneud â Bwyd a Diod. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Gradell/ Maen

Postiogan SerenSiwenna » Iau 21 Chw 2008 5:24 pm

Hello na cyd-faeswyr.

Fues i lawr yng nghaerdydd dechrau'r wythnos a dyma fi'n prynnu un o rhain:

Delwedd

Ac dwi di bod wrthi yn darllen amdanno ac am fynd adre heno i'w paratoi (olchi, cynnhesu, gorchuddio a olew a halen ayyb).

Doedd dim syniad gen i faint o traddodiad oedd gan y "griddle" ac, ynol pob son, mae gan pob ardal enw unigryw amdanno.

1. Oes gan unrhywun arall ar y maes un o rhain?
2. Pa fath o bethau byddwch yn coginio arno?
3. Be fyddech chi'n ei alw ag o ble yng nghymru yr ydych yn hanu?
4. Plis rhannwch unrhyw storiau neu anecotes :D
Golygwyd diwethaf gan SerenSiwenna ar Iau 28 Chw 2008 2:51 pm, golygwyd 1 waith i gyd.
Rhithffurf defnyddiwr
SerenSiwenna
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 602
Ymunwyd: Gwe 10 Chw 2006 2:58 pm
Lleoliad: Cilgwri

Re: Gradell/ Maen

Postiogan Rhodri Nwdls » Iau 21 Chw 2008 5:44 pm

Gen i un, ond ma'n un non-stick efo gwaelod sy'n dosbarthu'r gwres (ond dio'm yn gneud mnor dda a hen radell Dad).

Be dwi'n goginio arno? Cacs bach.

Dim anecdotes, heblaw am fod wrth y modd yn gweld fy modryb yn coginio cacs bach arno a'u pentyru yn eu degau yn barod i;w sglaffio. Mmm.
Maes-eio ers 2002, yo.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhodri Nwdls
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3061
Ymunwyd: Sad 23 Tach 2002 4:31 pm
Lleoliad: Maesymwstwr

Re: Gradell/ Maen

Postiogan SerenSiwenna » Gwe 22 Chw 2008 12:36 pm

Aha, felly gradell wyt ti'n ei alw ia?

A ti'n alw'r cacennau yn "cacs bach" (yn hytrach na Pice ar y maen) mae hwn yn diddorol achos roedd yr hanes ar y wefan lle oedd y llun cw yn deud mai yn y gogledd oedd y peth yn cael ei alw'n gradell, ac yn y de = maen (ymhusg geiriau eraill). Fel mae'r enw yn awgrymu, fysa pice ar y maen yn hanu o'r de...lle defnyddi'r y gair cacs hefyd ynte....hmmm, fellu un o ble wyt ti Rhodri?

Ynol y wefannau amrhyw sy'n ei werthu, mae'n bosib creu pob math o bethau hefo nhw, gan gynnwys: bara radell, piklets, crepes, cacennau-tatws ayyb.

Hoffi'r cofiannau ti'n rhannu Rhodri, ciwt iawn - siwr roeddet ti'n annwyl :winc: ...ond beth yw sglaffio?
Rhithffurf defnyddiwr
SerenSiwenna
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 602
Ymunwyd: Gwe 10 Chw 2006 2:58 pm
Lleoliad: Cilgwri

Re: Gradell/ Maen

Postiogan bartiddu » Gwe 22 Chw 2008 1:13 pm

Planc ma'r annwyl fam yn ei alw!
Rhithffurf defnyddiwr
bartiddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2285
Ymunwyd: Sad 21 Chw 2004 12:22 am
Lleoliad: Pentrwyn Cynwyl

Re: Gradell/ Maen

Postiogan Kez » Gwe 22 Chw 2008 1:49 pm

Mae 'llechwan' yn hen air amdani ond pics ar y man byswn i'n galw'r teisennau 'na sydd yn y llun.

Bysa mamgu yn rhoi jam yn y canol weithiau a phan oedd Mrs Davies drws nesa yn galw heibio, byswn i'n agor rhai o'nhw lan a rhoi bach o bupur ar y jam a'u rhoi nhw nol at ei gilydd - fysa hi ddim yn aros mor hir wedyn :D

M' arnoi ofan nag w i ddim cweit mor annwyl a Rhodri :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
Kez
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 661
Ymunwyd: Llun 30 Gor 2007 1:39 pm
Lleoliad: Battersea

Re: Gradell/ Maen

Postiogan jammyjames60 » Gwe 22 Chw 2008 6:59 pm

Cacenna gri sydd yn y llun 'nde, hynny ydy, 'Welsh cakes' yn y Saesneg?
Rhithffurf defnyddiwr
jammyjames60
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 681
Ymunwyd: Llun 07 Tach 2005 11:19 pm
Lleoliad: Felinheli, Gogledd Cymru

Re: Gradell/ Maen

Postiogan SerenSiwenna » Iau 28 Chw 2008 2:49 pm

bartiddu a ddywedodd:Planc ma'r annwyl fam yn ei alw!


Ie, mae'r llyfr bach cw yn son mai dyma yw un or enwau ar ei gyfer - a dyna ydy o deud y gwir ynte, planc o ddur :D
Rhithffurf defnyddiwr
SerenSiwenna
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 602
Ymunwyd: Gwe 10 Chw 2006 2:58 pm
Lleoliad: Cilgwri

Re: Gradell/ Maen

Postiogan SerenSiwenna » Iau 28 Chw 2008 2:57 pm

Kez a ddywedodd:Mae 'llechwan' yn hen air amdani ond pics ar y man byswn i'n galw'r teisennau 'na sydd yn y llun.

Bysa mamgu yn rhoi jam yn y canol weithiau a phan oedd Mrs Davies drws nesa yn galw heibio, byswn i'n agor rhai o'nhw lan a rhoi bach o bupur ar y jam a'u rhoi nhw nol at ei gilydd - fysa hi ddim yn aros mor hir wedyn :D

M' arnoi ofan nag w i ddim cweit mor annwyl a Rhodri :winc:


Mae gen i deja vu achos dwi'n siwr i mi ymateb i'r postiau yma, ond dyw nhw ddim ene felly ella maen't wedi mynd ar goll, eniwe:

Ia, mae'r llyfrau ar wefannau yn cofnodi llechwan fel air hefyd, ac yn deud mai oherwydd roeddent ar un adeg yn cael ei wneud o llechi neu cerrig llyfn, yn cael ei gosod dros y tan (unau gan law neu actiwli ei installio fel shilff) Dwi'n hoff iawn o eiriau fel hyn sy'n dal chydig o'r hanes hefo nhw.

Dwi erioed di cael jam yn y canol - sgwn i os yw hyn yn traddodiad lleol yntau improvisation dy nain oedd e? Un o ble wyt ti Kez?

Swndio fel oeddet ti'n annwyl mewn ffordd direidus :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
SerenSiwenna
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 602
Ymunwyd: Gwe 10 Chw 2006 2:58 pm
Lleoliad: Cilgwri

Re: Gradell/ Maen

Postiogan SerenSiwenna » Iau 28 Chw 2008 3:02 pm

jammyjames60 a ddywedodd:Cacenna gri sydd yn y llun 'nde, hynny ydy, 'Welsh cakes' yn y Saesneg?


Mae hyn yn diddorol achos pan o ni wrthi yn edrych trwy'r llefr bach a oedd yn rhoi ryseitiau am bethau i coginio arni, dyma fi'n gweld pice ar y maen, ac hefyd cacennau gri...fel ddau beth wahannol...ag eto, o sbio yn cwic arnynt, doedd yna ddim llawer os unrhywbeth o wahanniaeth rhwngddyn nhw...tybed os mai jest fater o semantics yw e? ai cacennau gri yw'r air gogleddol am pice ar y maen?

Un o ble wyt ti JJ?
Rhithffurf defnyddiwr
SerenSiwenna
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 602
Ymunwyd: Gwe 10 Chw 2006 2:58 pm
Lleoliad: Cilgwri

Re: Gradell/ Maen

Postiogan sian » Iau 28 Chw 2008 3:49 pm

jammyjames60 a ddywedodd:Cacenna gri sydd yn y llun 'nde, hynny ydy, 'Welsh cakes' yn y Saesneg?


cacen gri (unigol)
cacennau cri (lluosog - heb dreiglad)
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Nesaf

Dychwelyd i Bwyd a Diod

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 5 gwestai

cron