SerenSiwenna a ddywedodd:Kez a ddywedodd:Mae 'llechwan' yn hen air amdani ond pics ar y man byswn i'n galw'r teisennau 'na sydd yn y llun.
Bysa mamgu yn rhoi jam yn y canol weithiau a phan oedd Mrs Davies drws nesa yn galw heibio, byswn i'n agor rhai o'nhw lan a rhoi bach o bupur ar y jam a'u rhoi nhw nol at ei gilydd - fysa hi ddim yn aros mor hir wedyn
M' arnoi ofan nag w i ddim cweit mor annwyl a Rhodri
Mae gen i deja vu achos dwi'n siwr i mi ymateb i'r postiau yma, ond dyw nhw ddim ene felly ella maen't wedi mynd ar goll, eniwe:
Ia, mae'r llyfrau ar wefannau yn cofnodi llechwan fel air hefyd, ac yn deud mai oherwydd roeddent ar un adeg yn cael ei wneud o llechi neu cerrig llyfn, yn cael ei gosod dros y tan (unau gan law neu actiwli ei installio fel shilff) Dwi'n hoff iawn o eiriau fel hyn sy'n dal chydig o'r hanes hefo nhw.
Dwi erioed di cael jam yn y canol - sgwn i os yw hyn yn traddodiad lleol yntau improvisation dy nain oedd e? Un o ble wyt ti Kez?
Swndio fel oeddet ti'n annwyl mewn ffordd direidus
Un direidus iawn odw i ond ti'n dychra cal dylanwad arno i - wi'n mynd yn reit barchus ar y maes 'ma erbyn hyn - wel yn y negeseuon nag yn nhw'n dileu ta p'un i
Ble'r wyt ti'n byw? Beth yw dy rif ffon?
O ran y jam, own i'n meddwl bo pawb yn gwneud hwnna heblaw am y rhai sy ddim. Jam o jar oedd e cofia - Robinsons ne' rwpath. Wi'm cretu gellid di alw be' nath mamgu a'r pics wedyn yn draddodiad lleol - galliff unrhyw un a bach o sens yn ei ben feddwl am hwnna - ma fe'r un peth a rhoi menyn ar y top neu'r cenol
Un o wyr y Gloran odw i o'r cwm culach na cham ceiliog ys gwedan nhw - bydd rhaid iti witho hwnna mas ne' dera lawr i Battersea ac fi wna i weid 'thot ti