Gradell/ Maen

Gwell cwrw Cymru na llaeth Lloegr?

Cymedrolwr: Jeni Wine

Rheolau’r seiat
Lle i drafod pob dim sy'n ymwneud â Bwyd a Diod. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Gradell/ Maen

Postiogan Kez » Gwe 29 Chw 2008 3:30 pm

SerenSiwenna a ddywedodd:
Kez a ddywedodd:Mae 'llechwan' yn hen air amdani ond pics ar y man byswn i'n galw'r teisennau 'na sydd yn y llun.

Bysa mamgu yn rhoi jam yn y canol weithiau a phan oedd Mrs Davies drws nesa yn galw heibio, byswn i'n agor rhai o'nhw lan a rhoi bach o bupur ar y jam a'u rhoi nhw nol at ei gilydd - fysa hi ddim yn aros mor hir wedyn :D

M' arnoi ofan nag w i ddim cweit mor annwyl a Rhodri :winc:

Mae gen i deja vu achos dwi'n siwr i mi ymateb i'r postiau yma, ond dyw nhw ddim ene felly ella maen't wedi mynd ar goll, eniwe:

Ia, mae'r llyfrau ar wefannau yn cofnodi llechwan fel air hefyd, ac yn deud mai oherwydd roeddent ar un adeg yn cael ei wneud o llechi neu cerrig llyfn, yn cael ei gosod dros y tan (unau gan law neu actiwli ei installio fel shilff) Dwi'n hoff iawn o eiriau fel hyn sy'n dal chydig o'r hanes hefo nhw.

Dwi erioed di cael jam yn y canol - sgwn i os yw hyn yn traddodiad lleol yntau improvisation dy nain oedd e? Un o ble wyt ti Kez?

Swndio fel oeddet ti'n annwyl mewn ffordd direidus :winc:

Un direidus iawn odw i ond ti'n dychra cal dylanwad arno i - wi'n mynd yn reit barchus ar y maes 'ma erbyn hyn - wel yn y negeseuon nag yn nhw'n dileu ta p'un i :ing:

Ble'r wyt ti'n byw? Beth yw dy rif ffon? :winc:

O ran y jam, own i'n meddwl bo pawb yn gwneud hwnna heblaw am y rhai sy ddim. Jam o jar oedd e cofia - Robinsons ne' rwpath. Wi'm cretu gellid di alw be' nath mamgu a'r pics wedyn yn draddodiad lleol - galliff unrhyw un a bach o sens yn ei ben feddwl am hwnna - ma fe'r un peth a rhoi menyn ar y top neu'r cenol 8)

Un o wyr y Gloran odw i o'r cwm culach na cham ceiliog ys gwedan nhw - bydd rhaid iti witho hwnna mas ne' dera lawr i Battersea ac fi wna i weid 'thot ti :winc: :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
Kez
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 661
Ymunwyd: Llun 30 Gor 2007 1:39 pm
Lleoliad: Battersea

Re: Gradell/ Maen

Postiogan SerenSiwenna » Llun 03 Maw 2008 10:47 am

Kez a ddywedodd:

Hmm, cryptic iawn yw'r neges cyfan fan 'yn ynde :D

Dwi'n byw yn Lerpwl rwan, ond dwi o Wrecsam yn wreiddiol.

Hmmm, mae'n rhaid bo fi'n lacio imagination ynde, achos mond menyn dwi di cael ar Cacennau cri byth...erioed wedi meddwl rhoi dim byd arall arnynt :?

Sgin i ddim clem o ble wyt ti mae gen i ofn, ond dyw dearyddiaeth fi ddim up-to-much, fel mae nhw'n deud, heb son am allu dyfalu o ddisgrifiad...ond dwi'n credu mae un or de wyt ti ia?
Rhithffurf defnyddiwr
SerenSiwenna
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 602
Ymunwyd: Gwe 10 Chw 2006 2:58 pm
Lleoliad: Cilgwri

Re: Gradell/ Maen

Postiogan SerenSiwenna » Llun 03 Maw 2008 10:51 am

sian a ddywedodd:
jammyjames60 a ddywedodd:Cacenna gri sydd yn y llun 'nde, hynny ydy, 'Welsh cakes' yn y Saesneg?

cacen gri (unigol)
cacennau cri (lluosog - heb dreiglad)

Diddorol iawn di hyn, diolch am pwyntio hyn allan. Dwi'n dechrau meddwl fydda i byth yn deall y stwff treigliadau 'ma yli :?

Oes modd esbonio mewn cragen-cneuan, sut/ pam fod y treigliad uchod yn gweithio fel 'ma? :wps:
Rhithffurf defnyddiwr
SerenSiwenna
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 602
Ymunwyd: Gwe 10 Chw 2006 2:58 pm
Lleoliad: Cilgwri

Re: Gradell/ Maen

Postiogan jammyjames60 » Llun 03 Maw 2008 4:14 pm

[Un o ble wyt ti JJ?[/quote]

Y Felinheli, yng Ngwynedd. Teulu fi'n dwad o ardal Llanberis/Deiniolen ond mam 'di gael ei ddwyn i fyny'n Felinheli a mynd i ysgol yng Ngh'narfon.
Rhithffurf defnyddiwr
jammyjames60
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 681
Ymunwyd: Llun 07 Tach 2005 11:19 pm
Lleoliad: Felinheli, Gogledd Cymru

Re: Gradell/ Maen

Postiogan sian » Llun 03 Maw 2008 4:29 pm

SerenSiwenna a ddywedodd:
Oes modd esbonio mewn cragen-cneuan, sut/ pam fod y treigliad uchod yn gweithio fel 'ma? :wps:

Wel, mae "cri", mae'n debyg, yn golygu "heb furum" ("unleavened").

Mae "cacen" yn air benywaidd - "y gacen hon", "dwy gacen"
Os oes ansoddair (adjective) yn dod ar ôl gair benywaidd unigol, mae treiglad meddal ynddo - merch fach, ffrog goch, cacen gri.
Ond os oes ansoddair yn dod ar ôl gair benywaidd lluosog, does dim treiglad - merched bach, ffrogiau coch, cacennau cri.

Iawn?
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: Gradell/ Maen

Postiogan SerenSiwenna » Mer 05 Maw 2008 12:32 pm

jammyjames60 a ddywedodd:[Un o ble wyt ti JJ?

Y Felinheli, yng Ngwynedd. Teulu fi'n dwad o ardal Llanberis/Deiniolen ond mam 'di gael ei ddwyn i fyny'n Felinheli a mynd i ysgol yng Ngh'narfon.[/quote]

Aha, hynna'n confirmio fy suspisions (Cymraeg fel y copar yn C'mon Midfield) Felly, mae'n ymddangos fod Gradell a checennau cri yw'r termau sy'n cael ei defnyddio yn y Gogledd, dra bod maen a pice ar y maen yn cael ei defnyddio yn y de...gan mai hogan o'r gogledd dwi, gradell a chacennau cri fydda i yn iwsio o hyn ymlaen (ynlle "Welsh cakes") :D
Rhithffurf defnyddiwr
SerenSiwenna
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 602
Ymunwyd: Gwe 10 Chw 2006 2:58 pm
Lleoliad: Cilgwri

Re: Gradell/ Maen

Postiogan SerenSiwenna » Mer 05 Maw 2008 12:41 pm

sian a ddywedodd:
SerenSiwenna a ddywedodd:
Oes modd esbonio mewn cragen-cneuan, sut/ pam fod y treigliad uchod yn gweithio fel 'ma? :wps:

Wel, mae "cri", mae'n debyg, yn golygu "heb furum" ("unleavened").

Mae "cacen" yn air benywaidd - "y gacen hon", "dwy gacen"
Os oes ansoddair (adjective) yn dod ar ôl gair benywaidd unigol, mae treiglad meddal ynddo - merch fach, ffrog goch, cacen gri.
Ond os oes ansoddair yn dod ar ôl gair benywaidd lluosog, does dim treiglad - merched bach, ffrogiau coch, cacennau cri.

Iawn?

O! o ni di asumio fod "cri" yn golygu speckled - reit, mae'n dechrau siapio gen i rwan, "Unleavened cakes" - ag eto, oes burum yn cacennau fel arfer? Newydd sbio ar geiriadur.net ac, yn ogystal ag unleavened mae'n dweud gall cri golygu fresh...fysa hwna'n gwneud fwy o synwyr?

Dwi di printio'r esboniad uchod a dwi am ceisio ei ddysgu, diolch Sian...rhywddydd fydd y geiniog yn gollwng ac mi fydda i yn deall y stwff treigliadau 'ma! :D

Gyda llaw, neshi drio gwneud rhai ar dydd gwyl dewi i drio'r gradell newydd cw allan, a roedden nhw'n smonach gen i :wps: - yn llosgi ar y tu allan, ac dal fel toes ar y ty fewn. Ddim yn siwr beth oedd yn bod - y toes yn rhu wlub ella? Mi wnes i nhw hefo menyn yn unig, ond mae gen i ryseit sy hefo menyn a lard, felly dwi am drio hwna nesa, gan ei wneud yn fwy sych i weld os neith hynna helpu :rolio:

Unrhyw "tips" da ar gyfer y "pobi-gradell"? :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
SerenSiwenna
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 602
Ymunwyd: Gwe 10 Chw 2006 2:58 pm
Lleoliad: Cilgwri

Re: Gradell/ Maen

Postiogan SerenSiwenna » Mer 05 Maw 2008 12:44 pm

sian a ddywedodd:
SerenSiwenna a ddywedodd:
Oes modd esbonio mewn cragen-cneuan, sut/ pam fod y treigliad uchod yn gweithio fel 'ma? :wps:

Wel, mae "cri", mae'n debyg, yn golygu "heb furum" ("unleavened").

Mae "cacen" yn air benywaidd - "y gacen hon", "dwy gacen"
Os oes ansoddair (adjective) yn dod ar ôl gair benywaidd unigol, mae treiglad meddal ynddo - merch fach, ffrog goch, cacen gri.
Ond os oes ansoddair yn dod ar ôl gair benywaidd lluosog, does dim treiglad - merched bach, ffrogiau coch, cacennau cri.

Iawn?

Oes unrhyw ffordd o gwbod pam fod cacennau yn benywaidd? Ai oherwydd y traddodiad o fenywod yn ei paratoi? Oes yna list yn rhywle fel alla i ei dysgu nhw i gyd? :|
Rhithffurf defnyddiwr
SerenSiwenna
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 602
Ymunwyd: Gwe 10 Chw 2006 2:58 pm
Lleoliad: Cilgwri

Re: Gradell/ Maen

Postiogan sian » Mer 05 Maw 2008 12:54 pm

SerenSiwenna a ddywedodd:Oes unrhyw ffordd o gwbod pam fod cacennau yn benywaidd? Ai oherwydd y traddodiad o fenywod yn ei paratoi? Oes yna list yn rhywle fel alla i ei dysgu nhw i gyd? :|

Mae pob enw (noun) yn y Gymraeg (a lot o ieithoedd eraill) naill ai'r wrywaidd neu'n fenywaidd (neu weithiau, y ddau). Mae rhai ohonyn nhw'n amlwg (fel "dwy ferch" a "dau fachgen" - a rhai ddim. Fel'na mae!

Dw i erioed wedi meistroli'r grefft o wneud Welsh Cakes - (dal ddim yn gwbod pam mai dyna oedden ni'n eu galw nhw) - na phancws chwaith.
I ddweud y gwir, mae'n well gen i gymysgedd Welsh Cakes heb ei goginio!

(Dyna i chi un o'r geiriau od 'na - "y gymysgedd" fyddwn i'n ei ddweud (benywaidd) ond "y cymysgedd" sy'n iawn yn ôl y geiriadur.) :ing:
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: Gradell/ Maen

Postiogan SerenSiwenna » Gwe 07 Maw 2008 4:51 pm

sian a ddywedodd:
SerenSiwenna a ddywedodd:Oes unrhyw ffordd o gwbod pam fod cacennau yn benywaidd? Ai oherwydd y traddodiad o fenywod yn ei paratoi? Oes yna list yn rhywle fel alla i ei dysgu nhw i gyd? :|

Mae pob enw (noun) yn y Gymraeg (a lot o ieithoedd eraill) naill ai'r wrywaidd neu'n fenywaidd (neu weithiau, y ddau). Mae rhai ohonyn nhw'n amlwg (fel "dwy ferch" a "dau fachgen" - a rhai ddim. Fel'na mae!

Dw i erioed wedi meistroli'r grefft o wneud Welsh Cakes - (dal ddim yn gwbod pam mai dyna oedden ni'n eu galw nhw) - na phancws chwaith.
I ddweud y gwir, mae'n well gen i gymysgedd Welsh Cakes heb ei goginio!

(Dyna i chi un o'r geiriau od 'na - "y gymysgedd" fyddwn i'n ei ddweud (benywaidd) ond "y cymysgedd" sy'n iawn yn ôl y geiriadur.) :ing:

Ha ha, felly does 'na ddim logic ir peth benywaidd/ gwrwaidd felly...a da di cael gweld mae ddim jest y fi sy'n ei gael hi'n anodd! :P

Be di phancws?

Mae'n ffenomenwn odd twydi - fod rhai eiriau Gymraeg wedi ei disoldli gan y saesneg dros y blyddoedd diweddar - dodo/ bodo etc i Aunty, a cacennau cri/ pice ar y maen i Welsh Cakes! Sgwn i pam :?
Rhithffurf defnyddiwr
SerenSiwenna
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 602
Ymunwyd: Gwe 10 Chw 2006 2:58 pm
Lleoliad: Cilgwri

NôlNesaf

Dychwelyd i Bwyd a Diod

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 6 gwestai