gan Euronwy Cocwyllt » Sad 08 Maw 2008 9:03 pm
Spam friters - wes 'na rywun wedi prynu'r rhain? Man nhw'n costi biti £1.99 yn Somerfield ond digwdd ifi baso heibo i'r siop ar y ffordd gitre, popo mewn cyn amser cau a'u cal nhw am 30c am bod y 'sell buy date' ar ei ffordd. Hwpes i nhw miwn i'r ffwrn i'r mab a fi gal swper ond ar ol un hansh, on inne a'r mab bron a hwdu dros Geraldine y gath - well 'da fi' un o'r mars bars 'na mae'r Albanwyr yn cwcan mewn batar. Wes rhywun arall wedi tasto'r rhain - man nhw'n ffycin awful.