Prynwch bwydydd Lleol

Gwell cwrw Cymru na llaeth Lloegr?

Cymedrolwr: Jeni Wine

Rheolau’r seiat
Lle i drafod pob dim sy'n ymwneud â Bwyd a Diod. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Prynwch bwydydd Lleol

Postiogan Mewnwr » Iau 02 Hyd 2003 1:27 pm

Mae'n bwysig ein bod yn prynu bwydydd lleol gan gwmniau lleol Cymreig ac nid yr archfarchnadoedd mawrion yma. Hefyd sicrhewch os ydych yn mynd mas am bryd o fwyd ewch i le call h.y. Cymreig ac nid i'r cwmniau o fwydydd sothach yma. Dyma wers i chi, darllenwch isod mae o'n uffernol:-

Newydd gael clywed bore ma fod na ferch wedi glaw mewn McDonalds i gael burger yn ddiweddar iawn (nai i ddim enwi yn lle - achos maent i gyd yr un fath i fi) bore wedyn deffrodd gyda (blusters) doluriau mawr ar ei gwefusau, felly aeth hi at y doctor. Cymerodd y doctor 'swobs' o'r gwefusau i'w profi. Gofynodd os oedd hi wedi bwyta unrhywbeth a dywedodd burger cyw iar a myonaise o McD. Daeth y canlyniadau erchyll yn ol yn nodi fod yna 3 DNA gwahanol ar ei gwefusau! Ar ol fwy o brofion deallwyd mai o'r myonaise oedd - 3 DNA yn y pot mayonaise ac yn ogystal a hyn roedd yna haint rhywiol yn bresennol! (sydd rhaid i mi ddweud fwy!) - ych a fi mae'r peth yn anghredadwy ac yn afiach. Faint o bobl eraill sydd wedi cael y myonaise yma???? un gair sydd yw'n disgrifio MOCH!
Mewnwr
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 36
Ymunwyd: Iau 18 Medi 2003 3:04 pm

Postiogan Geraint » Iau 02 Hyd 2003 1:31 pm

Ma na lot o storie fel hyn. Clywoch chi am yr helynt yn maci dîs Drenewydd? Cafodd aelod o'r staff ei ddal ar y CCTV yn ychwanegu saws arbennig i'r thousand island dressing :?
Rhithffurf defnyddiwr
Geraint
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5804
Ymunwyd: Llun 30 Medi 2002 3:35 pm
Lleoliad: Dan garreg mewn ogof dan mynydd gogogoch yn y gofod (in space)

Postiogan Aelod Llipa » Iau 02 Hyd 2003 4:20 pm

Beth am fynd i mewn i Mc Donalds a gofyn yn Gymraeg am:
Byrgyr Cyw iar, Mayonnaise, Letys a digonedd o "Ysgytlaeth Dynol"?
Rhithffurf defnyddiwr
Aelod Llipa
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 334
Ymunwyd: Llun 27 Ion 2003 4:57 pm
Lleoliad: Sir Ddinbych

maccy d

Postiogan Clarice » Gwe 03 Hyd 2003 4:38 pm

Geraint a ddywedodd:Ma na lot o storie fel hyn. Clywoch chi am yr helynt yn maci dîs Drenewydd? Cafodd aelod o'r staff ei ddal ar y CCTV yn ychwanegu saws arbennig i'r thousand island dressing :?


Ac yn Cross Hands...urban myth? Ond os ti byth yn bwyta na sdim rhaid i ti boeni ta beth. Bydden i'n argymell darllen Fast Food Nation gan Eric Schlosser - bydden i'n poeni mwy am y cachu gwartheg sy di mynd mewn gyda'r cig yn y lladd-dy nac am unrhyw hylifau dynol.
Rhithffurf defnyddiwr
Clarice
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 279
Ymunwyd: Iau 02 Hyd 2003 10:09 am
Lleoliad: Caerdydd

Re: Prynwch bwydydd Lleol

Postiogan Cynog » Gwe 03 Hyd 2003 4:56 pm

[quote="Mewnwr"]Mae'n bwysig ein bod yn prynu bwydydd lleol gan gwmniau lleol Cymreig ac nid yr archfarchnadoedd mawrion yma.

Ydi pobl cymraeg yn llai tebygol o halio yn ei'n bwyd? Dwi di clywed streuon am ffactri gaws llangefni. Caws hufen dwbl!

Dwi yn cytuno ddo, be di pwint mewnforio cynhyrchion sydd gyna ni yn barod yma yng Nhymru? Oleia, os mae'n dod o Gymru (neu hyd yn oed prydain!) ma gyna ni fwy o rheiolaeth dros y cynyrch, h.y bod pobl di cal eui talu pris teg am ei gawith, gweithio mewn amodau derbyniol, a bod nhw ddim yn neud llanasd or blaned/cymdeithas.

Prywch gynyrch Cymreig! (Mae blas hufenog hyfryd arno!)
I know my own nation the best. That's why I despise it the most. And I know and love my own people too, the swine. I'm a patriot. A dangerous man.
-Edward Abbey

http://blogcynog.blogspot.com/
Rhithffurf defnyddiwr
Cynog
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 438
Ymunwyd: Mer 27 Awst 2003 5:43 pm

Postiogan nicdafis » Gwe 03 Hyd 2003 10:17 pm

Dw i byth yn siopa yn Tescos (yr archfarchnad yn Aberteifi) a dw i erioed wedi. Mae'n mor amlwg bod Tescos yw'r brif rheswm pam mae canol Aberteifi yn marw. Mae eu llwyddiant diweddaraf yw cau'r orsaf betrol drws nesa iddyn nhw. Unwaith bod yr orsaf dros y ffordd wedi mynd ac mae monopoli bach 'da nhw, dych chi'n meddwl bydd eu lo lo prices yn aros mor isel?

Dw i ddim wedi bwyta mewn McDonalds ers i mi fod yn America a gweld pa mor wael gall pethau fod yma. 'Swn i'n gorfod gweithio ynddo, byddwn i'n piso ar y baps hefyd. Dych chi'n gwybod sut maen nhw'n ymdrin eu gweithwyr? Heb sôn am yr abiws maen nhw'n derbyn oddi wrth <i>bovine Britain</i>.

Mae gardd llysiau 'da fi, a buwch, hwyiaid ac ieir. Dw i'n prynu popeth arall sydd angen o "Go Mango" (siop fwyd cyflawn) a siop fferm Sarnau, gyda ambell trît bach o'r garej ym Mrynhoffnant.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan huwwaters » Sad 04 Hyd 2003 10:32 am

Ma ne Tesco newydd yn cael ei hadeuladu yma'n Abergele.

Ai hyn fydd diwedd y dre?

Ond ma ne rhai amodau wedi cael eu gosod gan y cyngor tre.

Ma nhw'n talu am system traffig newydd (£200,000) and fod nhw'n yn cael adeiladu gorsaf betrol, achos ma'r cwmni ceir wreiddiol Abergele, Slaters, efo un yn barod, felly bydd hwnw yno i aros.
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

Postiogan nicdafis » Sad 04 Hyd 2003 1:03 pm

Oes cytundeb 'da nhw i beidio gosod i brisiau yn is na Slaters, nes iddyn nhwthau fynd mas o fusnes ac mae monopoli 'da Tesco?

Wrth gwrs, dydy beth dwedais i uchod ddim cweit yn wir. Nid <i>Tesco</i> sy'n lladd Aberteifi, ond pawb sy'n siopa yna.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan Leusa » Sad 04 Hyd 2003 3:44 pm

Lwcus rownd fforma dos na'm Mc-Donalds a ryw grap felly, dwi'n gwrthod byta yno o ran egwyddor eniwe. Lladd cymdeithas dydi.
o meri an meri an meri an se dore mi jac y do jac y do galileo mi mi mi galileo mi mi mi
Rhithffurf defnyddiwr
Leusa
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3035
Ymunwyd: Gwe 28 Chw 2003 11:52 pm

Postiogan Rhys Llwyd » Sul 05 Hyd 2003 3:56 pm

Ymunwch yn ein hymgyrch!!!!

http://www.cymdeithas.com
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Nesaf

Dychwelyd i Bwyd a Diod

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 2 gwestai