Ryseit Mars Bar Cryntsh?

Gwell cwrw Cymru na llaeth Lloegr?

Cymedrolwr: Jeni Wine

Rheolau’r seiat
Lle i drafod pob dim sy'n ymwneud â Bwyd a Diod. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Ryseit Mars Bar Cryntsh?

Postiogan bartiddu » Sad 29 Maw 2008 1:18 pm

Oni'n neud hwn yn yr ysgol blynydde maith yn ol, ond dwi wedi colli'r hen lyfryn ryseitiau :crio: , a dim ond brith gof sy 'da fi am y cynhwysion a'r dull.

Oes rhywyn yn digwydd gwybod y ryseit?

Cynhwysion (sylfaen)
Pecyn o Digestives wedi'i chwalu
Mars Bars...sawl un?
Cnau ffrenig ?
Raisuns ?
Siryp? faint ?
Rhywbeth arall ? :?

Dwi'n gwybod fod siocled wedi toddi yn mynd ar y top, dwi am rhoi shot arni, ond dim yn cofio digon i fentro eto! :D
Rhithffurf defnyddiwr
bartiddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2285
Ymunwyd: Sad 21 Chw 2004 12:22 am
Lleoliad: Pentrwyn Cynwyl

Re: Ryseit Mars Bar Cryntsh?

Postiogan bartiddu » Iau 24 Ebr 2008 12:08 pm

Es ati yn feiddgar neithiwr hefo'r cynhwysion uchod a chreu canlyniad campus!

Defnyddias pecyn o hob nobs yn lle'r digestives!

Chwalu'r hob nobs nes eu bod yn bowdwr bron.
Torri ychydig o cnau ffrenig mewn i ddarnau bychan, fel grean.
Hanner llon dwrn o raisuns
Mars bar maint brenin wedi'i doddi mewn disgyl uwch dwr berw, neu meicrodon.
Tua hanner tin o Siryp Euraidd!

Cymysgu'r cwbwl mewn powlen, rhowch yn y meicro i dwymo'r siryp, hawsach eu gymysgu wedyn!
Arllwys y gymysgedd mewn i tin bach sgwar 8"x8"x2" ( rhywbeth tebyg), bydd dwfnder o tua modfedd.
Toddi pecyn o siocled coginio yn y meicro a'i arllwys ar ben y cymysgedd.

Gadewch yn yr oergell dros nos, a torrwch allan yn ddarnau 1"x 2" wedi 'ny! :gwyrdd:
Rhithffurf defnyddiwr
bartiddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2285
Ymunwyd: Sad 21 Chw 2004 12:22 am
Lleoliad: Pentrwyn Cynwyl


Dychwelyd i Bwyd a Diod

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 13 gwestai

cron