Brecwast rhwng Dolgellau a'r Bala

Gwell cwrw Cymru na llaeth Lloegr?

Cymedrolwr: Jeni Wine

Rheolau’r seiat
Lle i drafod pob dim sy'n ymwneud â Bwyd a Diod. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Brecwast rhwng Dolgellau a'r Bala

Postiogan joni » Maw 15 Ebr 2008 8:49 am

Oes rhywun yn gwybod am rywle da i stopio am frecwast rhwng Dolgellau (wel, Brithdir i fod yn gwbl gywir) a'r Bala. Fyddwn ni'n neud y daith (anferth!) ar fore sadwrn, so de ni ddim moyn stopio yn un o'r trefi. Unrhyw gaffis nodedig i gael yn un o'r pentrefi ar y ffordd? Dim byd ffansi, wrth gwrs. Jyst rhywle â digon o gig moch a sosejis.
soon, my pretties...soon...
alcoflog
Rhithffurf defnyddiwr
joni
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3983
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 5:32 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: Brecwast rhwng Dolgellau a'r Bala

Postiogan Rhodri Nwdls » Maw 15 Ebr 2008 9:25 am

Eagles Llanuwchllyn?

Dwi'm yn meddwl gei di gaffi. Yn Nolgellau neu Bala eu hunain, cei, ond ddim yn Brithdir na Rhydymain. Dwn im am Llanuwchllyn.

Ma na le gwerthu wyau ffresh ar ochr ffordd yn Rhydymain - dos a camping Gaz a gewch chi wledd yn y layby!
Maes-eio ers 2002, yo.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhodri Nwdls
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3061
Ymunwyd: Sad 23 Tach 2002 4:31 pm
Lleoliad: Maesymwstwr

Re: Brecwast rhwng Dolgellau a'r Bala

Postiogan ceribethlem » Maw 15 Ebr 2008 11:39 am

joni a ddywedodd:Oes rhywun yn gwybod am rywle da i stopio am frecwast rhwng Dolgellau (wel, Brithdir i fod yn gwbl gywir) a'r Bala. Fyddwn ni'n neud y daith (anferth!) ar fore sadwrn, so de ni ddim moyn stopio yn un o'r trefi. Unrhyw gaffis nodedig i gael yn un o'r pentrefi ar y ffordd? Dim byd ffansi, wrth gwrs. Jyst rhywle â digon o gig moch a sosejis.

Mae shwr o fod rhwyle yn Bala, dim ond hamlet bach yw e' :winc:
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Brecwast rhwng Dolgellau a'r Bala

Postiogan joni » Maw 15 Ebr 2008 2:15 pm

ceribethlem a ddywedodd:
joni a ddywedodd:Oes rhywun yn gwybod am rywle da i stopio am frecwast rhwng Dolgellau (wel, Brithdir i fod yn gwbl gywir) a'r Bala. Fyddwn ni'n neud y daith (anferth!) ar fore sadwrn, so de ni ddim moyn stopio yn un o'r trefi. Unrhyw gaffis nodedig i gael yn un o'r pentrefi ar y ffordd? Dim byd ffansi, wrth gwrs. Jyst rhywle â digon o gig moch a sosejis.

Mae shwr o fod rhwyle yn Bala, dim ond hamlet bach yw e' :winc:

Yn fy mhrofiad i, ffindo lle i barcio ymysg yr holl Land Rover Defenders yw problem fwya Bala.
soon, my pretties...soon...
alcoflog
Rhithffurf defnyddiwr
joni
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3983
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 5:32 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: Brecwast rhwng Dolgellau a'r Bala

Postiogan Arthur Picton » Maw 15 Ebr 2008 3:37 pm

Dydi honno ddim yn broblem erbyn hyn, mae gan y Bala draffig wardens bellach!!
Rhithffurf defnyddiwr
Arthur Picton
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 69
Ymunwyd: Maw 08 Maw 2005 12:57 pm
Lleoliad: Dolgellau/Caerdydd

Re: Brecwast rhwng Dolgellau a'r Bala

Postiogan 7ennyn » Maw 15 Ebr 2008 3:48 pm

Arthur Picton a ddywedodd:Dydi honno ddim yn broblem erbyn hyn, mae gan y Bala draffig wardens bellach!!

Depiwti Sheriffs ti'n feddwl! Yeeeeeeehaaaaaaaa!
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
7ennyn
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 869
Ymunwyd: Gwe 01 Gor 2005 8:35 pm
Lleoliad: Maes Gwyddno

Re: Brecwast rhwng Dolgellau a'r Bala

Postiogan sian » Maw 15 Ebr 2008 3:49 pm

joni a ddywedodd:Yn fy mhrofiad i, ffindo lle i barcio ymysg yr holl Land Rover Defenders yw problem fwya Bala.


Digon o le i barcio bob amser yn y ddau faes parcio - ar y naill ben a'r llall i'r Stryd Fawr.
Neu mae pobl yn canmol bwyd y Ganolfan Hamdden.
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: Brecwast rhwng Dolgellau a'r Bala

Postiogan Mr Gasyth » Maw 15 Ebr 2008 3:54 pm

Mae brecwast Y Badell Aur yn y Bala yn werth chweil, a felly hefyd un Caffi'r Sosban Dolgellau.
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel


Dychwelyd i Bwyd a Diod

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 7 gwestai

cron