Swnio'n eitha afiach yn Saesneg hefyd. Yn ôl GPC, "gourd" neu "pumpkin" yw "gwrd" ar ei ben ei hunan ac, yn ôl Briws, "cneuen fenyn/cnau menyn" yw "butternut" a "g(o)wrd" neu "cicaion" yw "squash". Felly mae "gwrd cnau menyn" yn gyfieithiad iawn, am wn i, os nad oes hen air Cymraeg yn cuddio mewn rhyw lawysgrif yn rhywle. Mae'n debyg mai mewn llefydd fel Awstralia, Mecsico a De Affrica mae'n gyffredin.