Lle bwyd rhwng Croesoswallt a Llanidloes

Gwell cwrw Cymru na llaeth Lloegr?

Cymedrolwr: Jeni Wine

Rheolau’r seiat
Lle i drafod pob dim sy'n ymwneud â Bwyd a Diod. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Lle bwyd rhwng Croesoswallt a Llanidloes

Postiogan Iwan Rhys » Gwe 02 Mai 2008 6:54 am

Bore da,

Fe fydda i'n gyrru heno o Fanceinion i Aberystwyth, ac fe fydd angen swper arna i!

Oes rhywun yn gwybod am rhyw dafarn i gael pryd da, rhesymol rhywle yng Nghroesoswallt, y Trallwng, Drenewydd neu Llanidloes?

Diolch,

Iwan
Fel mollusc yn syrthio i gysgu, neu fel dwy falwen yn caru, siwr o bleser yw blasu'n ara' deg y gwyn a'r du.
Iwan Rhys
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 219
Ymunwyd: Llun 18 Ebr 2005 11:28 pm
Lleoliad: Wellington, Seland Newydd

Re: Lle bwyd rhwng Croesoswallt a Llanidloes

Postiogan Gwyn » Gwe 02 Mai 2008 7:37 am

Fel rhywun o Lanidloes, rwy'n argymell y Red Lion, reit ynghanol y dref. Lle cyfeillgar a bwyd neis. Ond alli di ddim rili mynd yn wrong yn Llanidloes... ma loads o pubs a'r rhan fwya'n neud bwyd da. Ma na hefyd Indian gwych os ti ffansio rhwbeth mwy Dwyreiniol!
Shwdi boi
Rhithffurf defnyddiwr
Gwyn
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 579
Ymunwyd: Iau 07 Ebr 2005 12:47 pm
Lleoliad: Clywedog

Re: Lle bwyd rhwng Croesoswallt a Llanidloes

Postiogan Geraint » Gwe 02 Mai 2008 8:57 am

Nags Head - Garthmyl (rhwng Trallwm a Drenewydd)
Lion Inn - Llandinam

Dwi o'r Drenewydd, a dwi methu meddwl am unrhyw dafarn i gael pryd da ar nos wener, ma pawb allan i feddwi yn gaib, nid bwyta!
Rhithffurf defnyddiwr
Geraint
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5804
Ymunwyd: Llun 30 Medi 2002 3:35 pm
Lleoliad: Dan garreg mewn ogof dan mynydd gogogoch yn y gofod (in space)

Re: Lle bwyd rhwng Croesoswallt a Llanidloes

Postiogan Iwan Rhys » Llun 05 Mai 2008 9:43 am

Diolch i'r ddau ohonoch am eich awgrymiadau.

Ro'n i'n hwyrach na'r disgwyl yn gadael Manceinion, felly pecyn o jips yng Nghroesoswallt oedd hi'n diwedd!

A minnau wedi edrych mlaen i gael stecen . . .
Fel mollusc yn syrthio i gysgu, neu fel dwy falwen yn caru, siwr o bleser yw blasu'n ara' deg y gwyn a'r du.
Iwan Rhys
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 219
Ymunwyd: Llun 18 Ebr 2005 11:28 pm
Lleoliad: Wellington, Seland Newydd


Dychwelyd i Bwyd a Diod

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 5 gwestai

cron