Bwyty a meicro-fragdy newydd yng Nghaerdydd

Gwell cwrw Cymru na llaeth Lloegr?

Cymedrolwr: Jeni Wine

Rheolau’r seiat
Lle i drafod pob dim sy'n ymwneud â Bwyd a Diod. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Bwyty a meicro-fragdy newydd yng Nghaerdydd

Postiogan Dili Minllyn » Sul 11 Mai 2008 6:22 pm

Roedd criw yng nghanol y ddinas yn hysbysebu lle newydd Zerodegrees. Ar un ystyr, mae'r bwyd yn debyg iawn yr olwg i sawl lle arall, er bod y moules-et-frites yn amrywiad diddorol, ond yr hyn sy'n apelio fwyaf yw bod pob un o fwytai'r cwmni'n bragu ei gwrw ei hunan.
Rhithffurf defnyddiwr
Dili Minllyn
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1181
Ymunwyd: Llun 11 Gor 2005 6:30 pm
Lleoliad: Uwchben Ynys Echni

Re: Bwyty a meicro-fragdy newydd yng Nghaerdydd

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Sul 11 Mai 2008 8:06 pm

Dili Minllyn a ddywedodd:Roedd criw yng nghanol y ddinas yn hysbysebu lle newydd Zerodegrees. Ar un ystyr, mae'r bwyd yn debyg iawn yr olwg i sawl lle arall, er bod y moules-et-frites yn amrywiad diddorol, ond yr hyn sy'n apelio fwyaf yw bod pob un o fwytai'r cwmni'n bragu ei gwrw ei hunan.


Wyt ti'n gwybod pa fath o le yw e? H.y. bwyty neu far sy'n gwerthu bwyd?
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Re: Bwyty a meicro-fragdy newydd yng Nghaerdydd

Postiogan huwwaters » Sul 11 Mai 2008 10:02 pm

Nes i yrru heibio'r lle heno, a'r allweddeiriau yn y top oedd bar, micro-brewery a rhywbeth arall. Byswn i'n tybio lle tebyg i'r Yard, yn y Brewery Quarter.
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

Re: Bwyty a meicro-fragdy newydd yng Nghaerdydd

Postiogan Dili Minllyn » Llun 12 Mai 2008 7:54 am

Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:Wyt ti'n gwybod pa fath o le yw e? H.y. bwyty neu far sy'n gwerthu bwyd?

Roedd yn cael ei farchnata fel bwyty, ond mae'r fwydlen yn fwy fel bwydlen tafarn i fi.
Rhithffurf defnyddiwr
Dili Minllyn
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1181
Ymunwyd: Llun 11 Gor 2005 6:30 pm
Lleoliad: Uwchben Ynys Echni

Re: Bwyty a meicro-fragdy newydd yng Nghaerdydd

Postiogan Rhys » Llun 19 Mai 2008 9:08 pm

Gwych, edrych ymlaen i flasu'r cwrw.

huwwaters a ddywedodd:Byswn i'n tybio lle tebyg i'r Yard, yn y Brewery Quarter.


Plis, plis bydda'n anghywir :crechwen:
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2176
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 8:07 pm
Lleoliad: Caerdydd

Re: Bwyty a meicro-fragdy newydd yng Nghaerdydd

Postiogan Hogyn o Rachub » Llun 19 Mai 2008 9:22 pm

Dwi'm yn meddwl bod o'm byd tebyg i'r Yard - edrych 'mlaen i ffendio allan yn fuan, beth bynnag!! :crechwen:
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Re: Bwyty a meicro-fragdy newydd yng Nghaerdydd

Postiogan Dili Minllyn » Sad 24 Mai 2008 5:37 pm

Wedi bod yna neithiwr. Mae'r awyrgylch yn llawer tebycach i dafarn na bwyty, ond efallai fod hynny am i ni fynd tua 6 o'r gloch nos wener pan oedd y lle'n llawn pobl yn cael peint wedi'r gwaith.

Cawson ginio i ddau, sef pizza'r un a ddwy ddiod yr un, am £25 punt, sy'n eithaf rhesymol. Roedd y bwyd tua'r un safon â Pizza Express a llefydd cyffelyb. Roedd y gwasanaeth wrth y bwrdd yn gwrtais a chyfeillgar (er iddyn nhw ddod â'r pizza anghywir i mi'r tro cyntaf).

Adeilad diddorol iawn hefyd - mae'r dafarn yr hen garej bysiau ar waelod Heol y Porth a fu'n wag ers blynyddoedd ar wahan i swyddfa tacsis fach.
Rhithffurf defnyddiwr
Dili Minllyn
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1181
Ymunwyd: Llun 11 Gor 2005 6:30 pm
Lleoliad: Uwchben Ynys Echni

Re: Bwyty a meicro-fragdy newydd yng Nghaerdydd

Postiogan Rhys » Sul 01 Meh 2008 7:41 am

Newydd fod i'r lle yma (hefyd am 6 o'r gloch nos Wener).

Byddai'n sicr yn mynd yn ôl yma am y cwrw, triais bedwar ohonynt, a phob un yn neis yn arbennig y Pale Ale, mmmm.

(Does dim Carling/Stella ar gael felly toes dim yobs yn yfed yno chwaith sy'n bonus :crechwen: )

Ond, cawsom ninnau ddau bitsa ac roedd yn reit siomedig, hefyd doedd y salad yn ddim mwy na chynnwys bag o mixed leaves o archfarchnad wedi ei bloncio ar blat gyda tamed o lemon (?).

Roedd yr holl staff yn gwrtais a chyfeilgar - er fe adawodd y rheolwr yr ochr i lawr drwy wisgo siwmper pinc, a stopio i ddarllen neges destun hanner ffordd wrth fynd a platied o fwyd at fwrdd rhywun :rolio:

Pan oeddwn i yno, roedd 2/3 o fyrddau'r lle wedi eu clustnodi ar gyfer pobl oedd yn bwyta, felly cafwyd llawer o bobl eu troi yn ôl o'r rhan fyny grisiau (oedd bron yn wag). Byddai wedi bod yn well rhoi arwydd ar waelod y grisiau i arbed siwrnai ofer i bobl ac fel nad oedd rhaid i'r staff ofyn i pob wan jack os oeddynt yn bwyta a'i peidio.

Happy hour rhwng 4 a 7 o nos Lun i nos Wener ble mae pob peint yn £2 yn hytrach na'r £2.70 arferol, sy'n fargen am y cwrw da.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2176
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 8:07 pm
Lleoliad: Caerdydd

Re: Bwyty a meicro-fragdy newydd yng Nghaerdydd

Postiogan finch* » Maw 12 Awst 2008 12:00 pm

Ddwedodd rhywun wrthai yn ystod y steddfod fod y lle yn gorfod gweithredu rhyw system waitro yn lle bar am fod cymlethdodau gyda'r drwydded. Oes unrhywun yn deall hyn ac yn medru esbonio achos doedd y'n ffrind i ddim wedi bod yno jest wedi clywed son am y peth.
Jeff Tarango - There must be two, three thousand people here!
Michael Stich - Well is it two or three?
Rhithffurf defnyddiwr
finch*
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2090
Ymunwyd: Gwe 03 Medi 2004 12:38 pm
Lleoliad: Yn cuddio

Re: Bwyty a meicro-fragdy newydd yng Nghaerdydd

Postiogan Mr Gasyth » Maw 12 Awst 2008 1:06 pm

Fues i yno rhyw bythefnos yn ol efo criw o'r gwaith, hefyd ar nos wener.

Cawsom i gyd pizzas, oedd yn hyfryd bob un (fel dudodd Dili, safon tebyg i PIzza Express) a roedd y staff yn gyfeillgar a serchog thu hwnt.

Er nad ydi o ar y menu am ryw reswm, mae posib cael gwydraid bach (tua 1/3 peint) o'r pum gwahanol gwrw am £2.70, sydd yn werth ei wneud. Doeddwn i'n gweld dim byd sbeshal am y cwrw, ond yn sicir tydi o didm gwaeth na be sydd ar gael mewn llefydd eraill.

Buaswn yn bendant yn mynd eto.

finch a ddywedodd:Ddwedodd rhywun wrthai yn ystod y steddfod fod y lle yn gorfod gweithredu rhyw system waitro yn lle bar am fod cymlethdodau gyda'r drwydded. Oes unrhywun yn deall hyn ac yn medru esbonio achos doedd y'n ffrind i ddim wedi bod yno jest wedi clywed son am y peth.


O be welais i, dim ond hynny o bobl yr oedd lle iddyn nhw eistedd oedd yn cael dod menw - h.y. doedd neb yn sefyll efo diod.

Ddim yn siwr be ydi natur trwydded 'table service' ond dwi wedi aros mewn hostel yng Nghaeredin unwaith oedd efo bar efo trwydded o'r fath. Er fod posib ordro wrth y bar yn y ffordd arferol, roedd rhaid wedyn cerdded lawr i ben y bar ble byddai'ch diodydd yn cael eu gosod ar fwrdd bach i chi eu casglu, gan felly gyflawni gofynion y drwydded dwi'n cymryd!
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel


Dychwelyd i Bwyd a Diod

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 3 gwestai

cron