Wrthi'n arbrofi efo gneud sos Carbonara. Y broblem - mae'r sos yn sychu fyny efo'r spaghetti poeth, (fel wy di sgramblo teip o beth). Sut mae atal hyn rag ddigwydd?
Dwi'n hoff o'r blas dwi'n gael, ond 'sa fo llawer gwell efo sos glypach! Be dwi neud yn anghywir? Bob tro dwi'n rhoi mwy o hufen i'r mix, mae'r blas yn uffernol o laethog / hufenog. ygh!
Dyma fy rysait hyd yn hyn: (x2 person)
Spaghetti ar y boil
Torri 2 ddarn o facwn yn fan - ffrio mewn chydig o olive oil.
Hanner nionyn a garlic wedi dorri'n fan (dwi'n hoffi lot o garlic) - rhoi mewn jyst cyn i'r bacwn grimpio.
Adio sbotyn o finegr gwin gwyn (neu gwin gwyn) i'r badell a rhoi'r badell ar wres isel tan mae'r spaghetti'n barod.
Rhoi 1 wy a run faint o hufen mewn powlen gyda llwyth o bupur (peppercorns wedi malu) a chydig o halen - cymysgu.
Drenio'r spaghetti, adio'r llysiau wedo ffrio, a rhoi'r sos ar ben popeth a'i gymysgu. Arlwyo.
Ei olchi lawr efo gwin gwyn sych - canolig.
Rhywun yn gneud o ffordd arall? Mae twbiau yn y siopau yn afiach.