Tudalen 1 o 1

Carbonara

PostioPostiwyd: Llun 18 Awst 2008 1:18 pm
gan Ar Mada
Wrthi'n arbrofi efo gneud sos Carbonara. Y broblem - mae'r sos yn sychu fyny efo'r spaghetti poeth, (fel wy di sgramblo teip o beth). Sut mae atal hyn rag ddigwydd?

Dwi'n hoff o'r blas dwi'n gael, ond 'sa fo llawer gwell efo sos glypach! Be dwi neud yn anghywir? Bob tro dwi'n rhoi mwy o hufen i'r mix, mae'r blas yn uffernol o laethog / hufenog. ygh!

Dyma fy rysait hyd yn hyn: (x2 person)

Spaghetti ar y boil

Torri 2 ddarn o facwn yn fan - ffrio mewn chydig o olive oil.

Hanner nionyn a garlic wedi dorri'n fan (dwi'n hoffi lot o garlic) - rhoi mewn jyst cyn i'r bacwn grimpio.

Adio sbotyn o finegr gwin gwyn (neu gwin gwyn) i'r badell a rhoi'r badell ar wres isel tan mae'r spaghetti'n barod.

Rhoi 1 wy a run faint o hufen mewn powlen gyda llwyth o bupur (peppercorns wedi malu) a chydig o halen - cymysgu.

Drenio'r spaghetti, adio'r llysiau wedo ffrio, a rhoi'r sos ar ben popeth a'i gymysgu. Arlwyo.

Ei olchi lawr efo gwin gwyn sych - canolig.

Rhywun yn gneud o ffordd arall? Mae twbiau yn y siopau yn afiach.

Re: Carbonara

PostioPostiwyd: Llun 18 Awst 2008 2:41 pm
gan Hogyn o Rachub
Dwi'm yn gwbl sicr o hyn, ond efallai y byddai'n syniad da coginio cymysgedd y carbonara ben ei hun a'i ychwanegu ar ôl i ti gymysgu popeth arall at ei gilydd. Drwy wneud hynny fe elli di weld yn union sut y mae'n coginio a rhoi stop ar y coginio pan fydd at dy ddant. Dylia hynny weithio.

Fodd bynnag mae'n bosibl nad wyt yn cymysgu digon. Drwy dy ddull di, os wyt yn gadael i'r cymysgedd "orffwys" ar waelod y badell o gwbl mi fydd yn bendant yn mynd yn fwy 'wy sgramblaidd'. Mae angen ei droi'n gyson a 'sdim angen gwneud hyn am hir chwaith, oherwydd bydd yr wy yn coginio yn syth wedi iddo daro gwaelod y sosban, a ph'un bynnag os mae'r cymysgedd heb y carbonara yn ddigon poeth prin y bydd angen llawer mwy na munud neu ddau arno beth bynnag.

NEU, mae'n bosibl iawn dy fod yn defnyddio'r hufen anghywir - o be dwi'n gofio mae angen defnyddio hufen dwbl, nid sengl.

Gobeithio bod hynny rywfaint o help.

Re: Carbonara

PostioPostiwyd: Llun 18 Awst 2008 2:49 pm
gan Llefenni
Neith y finag sgramblo'r wy swni'n meddwl - mae o'n gynhwysyn perffaith i galedu wy wedi potsio, falle na dyna di'r broblem, alli di drio fo heb y finag?

Re: Carbonara

PostioPostiwyd: Iau 18 Rhag 2008 4:23 pm
gan asuka
wi'n cytuno'n fwy neu lai - y finegr yn cawsio'r hufen yw'r broblem mae'n debyg, a byddai iwsio hufen dwbwl yn helpu. ac iwsio gwin yn lle'r finegr. neu beth am dreio crême fraiche? - mae e'n dda mewn sawsiau.

Re: Carbonara

PostioPostiwyd: Iau 18 Rhag 2008 7:33 pm
gan Ray Diota
oes wy mewn carbonara de? dwi'n lyrjic i wy, ond dwi'n siwr bo fi di byta carbonara heb fynd yn sal...

Re: Carbonara

PostioPostiwyd: Iau 18 Rhag 2008 11:16 pm
gan asuka
Ray Diota a ddywedodd:oes wy mewn carbonara de?
bob tro, hyd y gwn i. ffordd o weini bacwn a wyau fel saws pasta :D

Re: Carbonara

PostioPostiwyd: Gwe 19 Rhag 2008 9:25 am
gan Mr Gasyth
Ray Diota a ddywedodd:oes wy mewn carbonara de? dwi'n lyrjic i wy, ond dwi'n siwr bo fi di byta carbonara heb fynd yn sal...


dim wastad. dwi di genud un o blen efo jest hufen, ond dwi'n meddwl fod yna wy mewn carbonara 'go iawn'.

Re: Carbonara

PostioPostiwyd: Maw 10 Chw 2009 6:53 pm
gan Ar Mada
Wedi sysho'i! I ddau berson:

Sbag ar y boil.

Bacwn yn fan - ffrio mewn padell fawr / wok.

Nionod a garlleg yn fan, mewn efo'r bacwn cyn iddo grimpio. Sbotyn o win gwyn neu finegr gwin gwyn.

Mewn jwg, dau wy a chydig o lefrith/hufen. Halen a pupur du (to taste), dwi'n hoffi lot o bupur a digon o halen i gael y blas.

Jyst cyn i'r sbag fod yn barod, sifiwch o gan gadw'r stock! Pwysig!

Sbag mewn efo'r bacwn, nionod a garlleg a'i gymysgu gan ychwanegu'r stock yn araf, dim gormod.

Ychwanegu'r wy a'r llefrith, cymysgu'n ofalus, adio mwy o stock os oes angen.

Serfio efo chydig o spinach / letus / tomato. Caws ar ei ben o, clec i weddill y gwin. (dim y finegr!)

Re: Carbonara

PostioPostiwyd: Mer 11 Chw 2009 9:53 am
gan Tracsiwt Gwyrdd
dwi'n glafoerio!