Tudalen 1 o 1

Betys

PostioPostiwyd: Iau 15 Ion 2009 9:33 am
gan Hogyn o Rachub
Yn ddiweddar 'rhen hogia dwi wedi magu blas am fetys, ond arwahan gael rhywfaint efo tatws trwy'u crwyn neu ar ochr letys diflas, wn i ddim beth i wneud efo' fo. All rhywun gynnig rhywbeth diddorol i wneud gyda'r ffasiwn beth - ydi hi'n blasu'n wahanol pan nad ydi hi'n dod mewn jar?

Ffanciw.

Re: Betys

PostioPostiwyd: Iau 15 Ion 2009 1:01 pm
gan bartiddu
Brechdan tafellu betys (wedi biclo wrth gwrs) a winwns amrwd wedi'u torri'n fân, blasus iawn! :winc:

Re: Betys

PostioPostiwyd: Iau 15 Ion 2009 1:11 pm
gan ceribethlem
Hogyn o Rachub a ddywedodd:ydi hi'n blasu'n wahanol pan nad ydi hi'n dod mewn jar?
Odi. Ddim mor asidaidd, blas llawer mwy daearol arni.