Tudalen 1 o 2

Tatws trwy'u crwyn

PostioPostiwyd: Gwe 16 Ion 2009 11:07 am
gan Hogyn o Rachub
Tatws, tatws trwy'u crwyn,
Tatws, tatws trwy'u crwyn,
Tatws, tatws trwy'u crwyn
Mae'r werin di'w magu ar datws trwy'u crwyn


Do wir, gwir y geiria (neu ddim).

Beth fydd y Maeswyr yn licio gyda'u tatws trwy'u crwyn - a oes gan rywun awgrymiad diddorol?

Un syml fydda i felly, bîns a chaws neu gorgimwch sy wastad yn dwyn fy ffansi

Re: Tatws trwy'u crwyn

PostioPostiwyd: Gwe 16 Ion 2009 2:26 pm
gan Gwahanglwyf Dros Grist
Hogyn o Rachub a ddywedodd:Tatws, tatws trwy'u crwyn,
Tatws, tatws trwy'u crwyn,
Tatws, tatws trwy'u crwyn
Mae'r werin di'w magu ar datws trwy'u crwyn


Do wir, gwir y geiria (neu ddim).

Beth fydd y Maeswyr yn licio gyda'u tatws trwy'u crwyn - a oes gan rywun awgrymiad diddorol?

Un syml fydda i felly, bîns a chaws neu gorgimwch sy wastad yn dwyn fy ffansi


Rhostia nhw'r twonc. Berwi am ddeng munud. Rhoi crasfa iddyn nhw yn y colander, rhoi halen ac olew olewydd arnyn nhw, wedyn crasfa yn y ffwrn.

Re: Tatws trwy'u crwyn

PostioPostiwyd: Gwe 16 Ion 2009 2:46 pm
gan Hogyn o Rachub
Eh? :? Dwi'n gwbod yn iawn sut i wneud ffecin tysan drwy'i chroen, rwbath diddorol i roi ynddo dwi'n ei olygu de

Re: Tatws trwy'u crwyn

PostioPostiwyd: Gwe 16 Ion 2009 2:51 pm
gan bartiddu
Tynnu'r canol mas a'i gymysgu hefo cornd bîf a winws, nol i'r ffwrn am bach 'to, digon o saws HP 'da nhw wedyn. La Cuisinière Cordon Bleu myn yffarn i!

Re: Tatws trwy'u crwyn

PostioPostiwyd: Gwe 16 Ion 2009 3:25 pm
gan Gwahanglwyf Dros Grist
Hogyn o Rachub a ddywedodd:Eh? :? Dwi'n gwbod yn iawn sut i wneud ffecin tysan drwy'i chroen, rwbath diddorol i roi ynddo dwi'n ei olygu de


Na, na, na, gwna dato rhost. Nid taten drwy'i chroen. S'dim cymhariaeth o ran blas.

Re: Tatws trwy'u crwyn

PostioPostiwyd: Gwe 16 Ion 2009 3:41 pm
gan Hogyn o Rachub
Dallt wan. Tai'm i licio tatws rhost :)

Re: Tatws trwy'u crwyn

PostioPostiwyd: Gwe 16 Ion 2009 4:50 pm
gan Ramirez
Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:
Hogyn o Rachub a ddywedodd:Eh? :? Dwi'n gwbod yn iawn sut i wneud ffecin tysan drwy'i chroen, rwbath diddorol i roi ynddo dwi'n ei olygu de


Na, na, na, gwna dato rhost. Nid taten drwy'i chroen. S'dim cymhariaeth o ran blas.


Shaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaatit.

Ma'r ddwy ffordd yn sboton siwr. Tatan drwy'i chroen yn fandango.

Tiwna, caws a chilli (Jalapenos wedi eu piclo os oes na rei wrth ymyl).

Re: Tatws trwy'u crwyn

PostioPostiwyd: Gwe 16 Ion 2009 7:50 pm
gan osian
Dwi'n gweld tatws drw crwyn yn betha diflas iawn. Yr unig ffordd o neud nhw'n ddiddorol ydi coginio nhw am rywfaint, wedyn torri nhw yn eu hannar, a stwnsho'r tatws efo menyn a caws a bacon, wedyn pobi nhw eto.
hyfryd.

Re: Tatws trwy'u crwyn

PostioPostiwyd: Sad 17 Ion 2009 7:38 pm
gan Mali
he he ....ydi tatws drwy crwyn run fath a tatws popty ?
Os felly , dyna be da ni'n mynd i gael heno efo chilli con carne a caws wedi ei gratio...syml a blasus. :D

Re: Tatws trwy'u crwyn

PostioPostiwyd: Sad 17 Ion 2009 8:46 pm
gan sian
Mali a ddywedodd:he he ....ydi tatws drwy crwyn run fath a tatws popty ?
Os felly , dyna be da ni'n mynd i gael heno efo chilli con carne a caws wedi ei gratio...syml a blasus. :D


Tatws popty ffor'hyn (Trefor) yw chops cig oen rhad, sgraggy, tato a winwns wedi'u torri'n ddarnau a'u gwneud yn slo bach yn y popty mewn dŵr a chydig o flawd. (Do'n i erioed wedi clywed amdano cyn symud i'r gogledd).
Falle bod nhw'n galw tatws trwy'u crwyn yn datws popty yn nes i'r dwyrain.