Tudalen 2 o 2

Re: Tatws trwy'u crwyn

PostioPostiwyd: Iau 05 Chw 2009 9:13 am
gan Sleepflower
Fyddai'n neud cwpl o dyllau ynddyn nhw gyda fforc, wedyn siap 'x' ar un ochr gyda chyllell. Wedyn fyddai'n rhwbio olew a halen ynddyn nhw, a'u rhoi'n syth ar shilff y ffwrn ar 200 gradd am 1 awr 20 munud, gan droi nhw hanner ffordd.

Mae Neijel Slater yn awgrymu rhoi karate chop iddyn nhw pan ma nhw'n barod. Mae hyn yn agor y daten, a neud y tu fewn yn fflyffi.

Bîns fi'n cael pob tro, gyda gwydryn o sgwosh ar yr ochr.