Tudalen 1 o 2

Hoff lefydd bwyta allan?

PostioPostiwyd: Iau 29 Ion 2009 10:35 am
gan Orcloth
Fy rhai i:-
Llofft Hwyliau, Felinheli - bwyd a golygfeydd anhygoel.
Tafarn y Gors, Pentre Berw - bwyd cartref blasus.
Holland Arms, Pentre Berw - cinio dydd Sul gwerth chweil.
Ac os da chi'n despret am rhywbeth sydyn, sdim byd gwell na Bacon Double Cheese XL, fries a sudd oren o Burger King, Llandegai!
Mae'n braf weithia cael sbario gwneud bwyd a golchi llestri, tydi? :D

Re: Hoff lefydd bwyta allan?

PostioPostiwyd: Iau 29 Ion 2009 11:55 am
gan Gwahanglwyf Dros Grist
Hmmm, dibynnu ar yr achlysur, ond yw? O ran cinio amser cinio, s'dim unman gwell na Chaffi Minuet yn Arced y Castell. Pryd tafarn, mae'r Farriers tu fas i Lanelli yn lle da iawn, ond o ran pryd crand o safon, Y Polyn bob tro.

Re: Hoff lefydd bwyta allan?

PostioPostiwyd: Iau 29 Ion 2009 11:58 am
gan Gwahanglwyf Dros Grist
O.N. Dim ond un seren Michelin sydd gan Gymru bellach. Arwydd bod bwyd yng Nghymru yn gwaethygu, neu arwydd o snobyddiaeth y Michelin?

Re: Hoff lefydd bwyta allan?

PostioPostiwyd: Iau 29 Ion 2009 1:18 pm
gan Hogyn o Rachub
Mae Sopna rhwng Llanrug a Chaernarfon yn un o'r bwytai Indaidd gora i mi fod iddo.
Y Bwl yn Mhentraeth yn neud bwyd rili neis, hoffi mynd yno efo'r teulu pan fydda i adra.
Yng Nghaerdydd, mae Strada yn y bae (er ei fod yn fwyty cadwyn, dwi'n meddwl tydi?) yn gneud coblyn o fwyd neis bob tro dwi wedi bod, ac eto i'r rhai sy heb roi cynnig ar fwydlen newydd y Mochyn Du, gwnewch, mae'n rili neis.

Ond gan nad ydym yn trafod safon bwyd, ond yn hytrach lle i fynd i fwyta, Marchnad Caerdydd ydi'r lle i mi, a 'sdim ots gen i be udith neb arall am hynny.

Re: Hoff lefydd bwyta allan?

PostioPostiwyd: Iau 29 Ion 2009 3:02 pm
gan Gwahanglwyf Dros Grist
Hogyn o Rachub a ddywedodd:Mae Sopna rhwng Llanrug a Chaernarfon yn un o'r bwytai Indaidd gora i mi fod iddo.
Y Bwl yn Mhentraeth yn neud bwyd rili neis, hoffi mynd yno efo'r teulu pan fydda i adra.
Yng Nghaerdydd, mae Strada yn y bae (er ei fod yn fwyty cadwyn, dwi'n meddwl tydi?) yn gneud coblyn o fwyd neis bob tro dwi wedi bod, ac eto i'r rhai sy heb roi cynnig ar fwydlen newydd y Mochyn Du, gwnewch, mae'n rili neis.

Ond gan nad ydym yn trafod safon bwyd, ond yn hytrach lle i fynd i fwyta, Marchnad Caerdydd ydi'r lle i mi, a 'sdim ots gen i be udith neb arall am hynny.


Ai'r Iesu yw'r cogydd newydd, achos mae angen gwyrth i 'neud bwyd y lle 'na'n 'neis'.

Re: Hoff lefydd bwyta allan?

PostioPostiwyd: Iau 29 Ion 2009 3:43 pm
gan Hogyn o Rachub
Bol-ycs.

Re: Hoff lefydd bwyta allan?

PostioPostiwyd: Iau 29 Ion 2009 6:54 pm
gan Mali
Orcloth a ddywedodd:Fy rhai i:-
Llofft Hwyliau, Felinheli - bwyd a golygfeydd anhygoel.
Tafarn y Gors, Pentre Berw - bwyd cartref blasus.
Holland Arms, Pentre Berw - cinio dydd Sul gwerth chweil.
Ac os da chi'n despret am rhywbeth sydyn, sdim byd gwell na Bacon Double Cheese XL, fries a sudd oren o Burger King, Llandegai!
Mae'n braf weithia cael sbario gwneud bwyd a golchi llestri, tydi? :D


Hmmm...llefydd newydd i mi ar wahân i'r Holland Arms. Awydd trio'r Llofft Hwyliau neu Dafarn y Gors ella pan ddown i Gymru , ond well cadw'n glir o'r Burger King ....er gymaint dwi'n hoff ohonynt. :P
Yn reit hoff o'r Anglesey Arms , ond bod hi wastad yn ddistaw pan da ni'n mynd yno, ond fy ffefryn i di'r Ceffyl Gwyn yn Llandyrnog . Bwyd ardderchog mewn pyb bach y wlad. :D

Re: Hoff lefydd bwyta allan?

PostioPostiwyd: Iau 29 Ion 2009 10:04 pm
gan Duw
Garcon, Bae Caerdydd. Am fwyd Ffrengig (bron) cywir.
Le Garrick (Moules et Frites!) a'r Gay Hussar (Hwngaraidd), Llundain.

Re: Hoff lefydd bwyta allan?

PostioPostiwyd: Gwe 30 Ion 2009 12:01 pm
gan Gwahanglwyf Dros Grist
Duw a ddywedodd:Garcon, Bae Caerdydd. Am fwyd Ffrengig (bron) cywir.


Unwaith erioed ydw i wedi bod 'na. Roedd y lle'n eitha' da. Ddylen i fynd nôl te?

Galvins yw'r lle Ffrengig gore i fi fynd iddo: http://www.galvinrestaurants.com/sectio ... ot_de_luxe

*glafoer*

Re: Hoff lefydd bwyta allan?

PostioPostiwyd: Gwe 30 Ion 2009 12:54 pm
gan Mr Gasyth
Rioed di cael blas ar fwyd y Mochyn Du rhaid deud.

Gan fod y ddynes 'cw yn ffan mawr o'r rhaglen deledu The Restaurant aethon ni i'r Brasserie Blanc newydd yn Mryste yn ddiweddar. Bwyd hyfryd, efo'r 'chicken liver parfait' fel starter yn uchafbwynt. Werth y siwrne o Gaerdydd yn bendant.

Wedi bod yn Garcon unweth a wedi mwynhau yn fawr hefyd, ac am fynd nol.

Rioed di bod yn Le Galois ym Mhontcanna, ond mae'r lle Eidalaidd Stefanos drws nesa yn fendigedig am bris mwy rhesymol.

Lle mae Y Polyn?