Tudalen 2 o 2

Re: Hoff lefydd bwyta allan?

PostioPostiwyd: Llun 02 Chw 2009 6:39 pm
gan dafyddpritch
Molly's yng Nghaernarfon yn arbennig o neis, gallu bod yn rhad ar ambell noson yng nghanol wthnos.
Dwi'n licio Spice of Llanberis am fwyd Indiaidd fyd, well na Sopna dwi'n meddwl.

Re: Hoff lefydd bwyta allan?

PostioPostiwyd: Llun 22 Meh 2009 7:20 pm
gan Dili Minllyn
Mae Mrs Minllyn a’r hwyaid bach wedi mynd â fi i’r Polyn Hopys yng Nghaerfaddon ar gyfer Sul y Tadau. Un o darfarndai Bath Ales yw hi, ar yr A4 ar ochr Bryste i’r dref. Mae detholiad da o gwrw ardderchog, wrth reswm, a’r bwyd mwyaf ffres a gefais mewn bwyty ers tro.

Mae Parc Brenhinol Fictoria dros yr heol, efo llawer o lefydd reit bert i gerdded, a maes chwarae anferth os oes plantos gyda chi.