Y FUWCH GOCH yn agor ei drysau am y tro cyntaf ers dros 200 mlynedd
Mae’n fraint cyhoeddi y bydd bar newydd o’r enw Y FUWCH GOCH yn agor ei drysau am y tro cyntaf ar Chwefror 6ed, 2009, gyferbyn a Chlwb Ifor Bach, ar Stryd Womanby, Caerdydd. Sefydlwyd Y Fuwch Goch nol yn y ddeunawfed ganrif, a chyfeiriwyd at Stryd Womanby fel Lôn Y Fuwch Goch hefyd ar un adeg - ac mae paneli gwybodaeth yn y bar yn olrhain hanes y dafarn a’r cyffiniau.
Clwb Cymraeg Caerdydd bydd yn rheoli’r bar newydd, ac fe fydd yn rhywle i Gymry Cymraeg allu ymlacio a mwynhau mewn awyrgylch Cymraeg ynghanol ein prifddinas yn ogystal â Chlwb Ifor Bach. Bydd y bar ar gael i gynnal digwyddiadau Cymraeg yn y ddinas, yn ogystal â dangos gemau chwaraeon pwysig, ac ar gael i logi ar gyfer achlysuron arbennig gan y cyhoedd.
Dywedodd Owen John Thomas, aelod o bwyllgor Clwb Ifor Bach, a chyn aelod cynulliad Plaid Cymru: “Da yw gweld ail-afael yn rhan o etifeddiaeth Caerdydd o’r adeg pan oedd yn dref Gymraeg yn bennaf. Hefyd nodi fod bar newydd yn agor tra bod eraill yn cau, a bod hynny arwydd o gynnydd yr iaith yn yr ardal”. Dywed y DJ ac actor Gareth Potter, sydd wedi bod yn gymeriad ym mywyd adloniant Cymraeg Caerdydd ers i Glwb Ifor Bach agor (ac a fydd yn darparu trac sain Cymraeg y bar newydd): “Fe fydd y Fuwch Goch yn lleoliad canol dref bwysig ar gyfer cymdeithasu Cymraeg yn y ddinas, ac edrychaf ymlaen at y datblygiad yma’n arw”
Am ragor o fanylion / lluniau, cysylltwch â: yfuwchgoch@clwb.net / http://www.yfuwchgoch.com
Hanes ychwanegol Y Fuwch Goch:
Yr Hen Fuwch Goch
Yn y ddeunawfed ganrif a’r bedwaredd ganrif ar bymtheg y safai tafarn y Fuwch Goch ar Stryd Womanby . Ehangwyd yr hen adeilad yn hwyr yn oes Victoria'r holl ffordd yn ôl i Heol y Porth a rhoddwyd arno’r enw mwy rhwysgfawr “Grand Hotel”. Yna fe ychwanegwyd y safle gwreiddiol at y dafarn drws nesaf, yr “Horse and Groom”, a fu yma tan y ganrif hon. Y Fuwch Goch oedd man cychwyn y cariwr rhwng Caerdydd a’r Bontfaen.
Yr enw Saesneg “Red Cow” a gofnodir ar gyfer yr hen dafarn, ac yr oedd ei harwydd mor amlwg fel i’r stryd ddwyn yr enw Saesneg “Red Cow Lane” am gyfnod. Fodd bynnag mae’n debyg mai’r “Fuwch Goch” oedd y lle ar lafar, gan fod yna gyfeiriad yn 1731 at un o’r ardalwyr dan yr enw “Dic y Fuwch”. Efallai mai ef oedd y perchennog ar y pryd. Y sawl a wnaeth gyfeirio ato oedd Thomas Morgan, cyfreithiwr ac un o fân sgweieriaid y fro, oedd yn ymwelydd cyson a thafarn arall o’r enw Tŷ Coch, llai na chanllath i ffwrdd.