Tudalen 1 o 2

Dydd Mawrth Crempog hapus i chi.....

PostioPostiwyd: Maw 24 Chw 2009 3:12 pm
gan Orcloth
Mmm, dwi wrth fy modd hefo crempog - y ffordd neisha a'r hawsa - hefo menyn, siwgwr a lemwn. Eu rhowlio i fyny, eu torri yn rholion bach, a'u bwyta tra bo'n nhw'n boeth fel bo'r menyn a'r siwgwr yn toddi lawr dy fysedd di (a'u llyfu wedyn - lyfli!). Fedrai'm disgwyl tan amser te! (Er mai fi fydd yn gorfod eu gwneud nhw, ac felly ddim yn cael r'un tan bod pawb arall di cael llond bol!). :D

Re: Dydd Mawrth Crempog hapus i chi.....

PostioPostiwyd: Maw 24 Chw 2009 6:09 pm
gan Mali
Hei....braf gweld fod 'na rywun arall yn bwyta crempogau heddiw ! 8)
Sgin i ddim syniad sut rai byddwn i'n 'i cael amser te, gan ein bod yn mynd allan am grempogau eleni . Bydd ein heglwys yn cynnal te crempogau . :D Gobeithio y bydd 'na griw golew yno , a gobeithiaf gael digon o maple syrup ar rai fi !

Delwedd

Re: Dydd Mawrth Crempog hapus i chi.....

PostioPostiwyd: Maw 24 Chw 2009 8:05 pm
gan Hedd Gwynfor
Oes gan rhywun rysait a chyfarwyddiadau da?

Re: Dydd Mawrth Crempog hapus i chi.....

PostioPostiwyd: Maw 24 Chw 2009 8:25 pm
gan Kez
Hedd Gwynfor a ddywedodd:Oes gan rhywun rysait a chyfarwyddiadau da?


'Co ti Hedd - ond paid a byta gormod o' nhw :winc:

http://www.acen.co.uk/rap/rysait/

Re: Dydd Mawrth Crempog hapus i chi.....

PostioPostiwyd: Maw 24 Chw 2009 10:41 pm
gan Duw
Mae'n ngeg yn grimp am grempog. Taflu'r diawled dros y cegin a bita nhw off y llawr. Dyna joio! Cryntshi ond neis.

Re: Dydd Mawrth Crempog hapus i chi.....

PostioPostiwyd: Mer 25 Chw 2009 9:51 am
gan Orcloth
Duw a ddywedodd:Mae'n ngeg yn grimp am grempog. Taflu'r diawled dros y cegin a bita nhw off y llawr. Dyna joio! Cryntshi ond neis.

Nath hwnna neud i fi chwerthin, ti'n gymaint o ges, Duw! Er, sa raid i ti dynnu'r blew ci oddarnyn nhw yn ty ni, neu fysan nhw'n mynd yn sownd rhwng dy ddannedd ac yn sticio i dy dafod! :D

Re: Dydd Mawrth Crempog hapus i chi.....

PostioPostiwyd: Mer 25 Chw 2009 4:50 pm
gan Mali
Orcloth a ddywedodd:
Duw a ddywedodd:Mae'n ngeg yn grimp am grempog. Taflu'r diawled dros y cegin a bita nhw off y llawr. Dyna joio! Cryntshi ond neis.

Nath hwnna neud i fi chwerthin, ti'n gymaint o ges, Duw! Er, sa raid i ti dynnu'r blew ci oddarnyn nhw yn ty ni, neu fysan nhw'n mynd yn sownd rhwng dy ddannedd ac yn sticio i dy dafod! :D


he he blasus iawn ....:lol:
Daeth tua 60 o fobl a phlant i neuadd ein heglwys neithiwr , ac mi gefais i ddau blatiad o grempog efo blueberries , selsig, a digon o maple syrup drostynt . :D

Re: Dydd Mawrth Crempog hapus i chi.....

PostioPostiwyd: Mer 25 Chw 2009 6:44 pm
gan Orcloth
Rargol fawr, dyna waith calad oedd gwneud crempog i rheina i gyd! Dwi'm yn siwr swn i'n licio crampogan hefo selsig, chwaith! Mae un hefo blueberries yn sowndio'n neis iawn! :D

Re: Dydd Mawrth Crempog hapus i chi.....

PostioPostiwyd: Mer 25 Chw 2009 10:07 pm
gan KJ
Dwi'n aros tan y penwythnos am grempog ac am fynd i'r Plaza i gael Wall Street. Crempog efo bacwn,wy, maple syrup a sos coch....Bendigedig. Peint o Kilkenny wedyn i olchi fo lawr o bosib.

Re: Dydd Mawrth Crempog hapus i chi.....

PostioPostiwyd: Mer 25 Chw 2009 10:21 pm
gan Duw
Sos coch, selsig??!! Chi'n sick puppies. Cwpwl o piwbs - iawn, ond sos coch? Teimlo'n cordd yn codi. :x