Dydd Mawrth Crempog hapus i chi.....
Postiwyd: Maw 24 Chw 2009 3:12 pm
Mmm, dwi wrth fy modd hefo crempog - y ffordd neisha a'r hawsa - hefo menyn, siwgwr a lemwn. Eu rhowlio i fyny, eu torri yn rholion bach, a'u bwyta tra bo'n nhw'n boeth fel bo'r menyn a'r siwgwr yn toddi lawr dy fysedd di (a'u llyfu wedyn - lyfli!). Fedrai'm disgwyl tan amser te! (Er mai fi fydd yn gorfod eu gwneud nhw, ac felly ddim yn cael r'un tan bod pawb arall di cael llond bol!).