Tudalen 1 o 1

Caserol

PostioPostiwyd: Mer 04 Maw 2009 1:26 pm
gan Hogyn o Rachub
Helo bawb. Teimlo'n llwglyd ar y funud, a meddwl oes gan rywun unrhyw ryseitiau caserol diddorol? Efallai rhywbeth ychydig yn wahanol o'r arferol?

Rhowch wybod !

Re: Caserol

PostioPostiwyd: Mer 04 Maw 2009 2:32 pm
gan Gwahanglwyf Dros Grist
Ffrio winwns, garlleg, chorizo a phuprod, wedyn ychwanegu tato am ryw ddeng munud. Tun o domatos, glased o win gwyn, bouquet garni a phaprika a mewn i'r ffwrn am ryw ddwy awr a mwy.

Re: Caserol

PostioPostiwyd: Mer 04 Maw 2009 2:37 pm
gan Hogyn o Rachub
Mmmm, mae hwnnw newydd wirioneddol ddod รข dwr i'm dannedd i!

Dewch, gwnewch i mi lafoerio!

Re: Caserol

PostioPostiwyd: Mer 04 Maw 2009 3:07 pm
gan sian
Os ti'n teimlo'n llwglyd ar y funud, oni fyddai bechdan gaws yn well?

Dw i'm erioed wedi gallu meistroli caserol na chawl :crio:

Re: Caserol

PostioPostiwyd: Mer 04 Maw 2009 3:11 pm
gan Ray Diota
Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:Ffrio winwns, garlleg, chorizo a phuprod, wedyn ychwanegu tato am ryw ddeng munud. Tun o domatos, glased o win gwyn, bouquet garni a phaprika a mewn i'r ffwrn am ryw ddwy awr a mwy.


s'dim ffwrn 'da fi... fydde fe'n flasus ar ol 'i adel e i ffrwtian ar yr hob am awren?

Re: Caserol

PostioPostiwyd: Mer 04 Maw 2009 3:49 pm
gan Gwahanglwyf Dros Grist
Ray Diota a ddywedodd:
Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:Ffrio winwns, garlleg, chorizo a phuprod, wedyn ychwanegu tato am ryw ddeng munud. Tun o domatos, glased o win gwyn, bouquet garni a phaprika a mewn i'r ffwrn am ryw ddwy awr a mwy.


s'dim ffwrn 'da fi... fydde fe'n flasus ar ol 'i adel e i ffrwtian ar yr hob am awren?


Ie, dyle fod. Lwyddes i i neud boeuf bourgignon (sillafu?) ar yr hob pyddwrnod.