gan Duw » Gwe 27 Maw 2009 6:03 pm
Yn bersonol dwi bron ddim yn ei choginio o gwbl - hoffi'r peth yn las. Brownio'r ddwy ochr yn unig a lawr y llwnc â hi. Fy hoff gig eidion yw stec 'tartare'. Dwi pob amser yn cael hwn y diwrnod cynta'r gwylie'n Ffrainc.
Ffefryn arall yw stecen fflorentîn - asgwrn-T enfawr - i'w rhannu rhwng 2 - hefyd chateaubriand (os ydych yn mynd i Garcon ym Mae Caerdydd - mae'n rhaid trio hwn - eto i rannu rhwng 2).
Parthed y coginio - cytuno gyda gosod olew ar y cig, ychydig o bupur a halen ar y ddwy ochr hefyd cyn ei frownio. Gyda sirloin, er fy mod yn hoffi stecen las, byddaf yn coginio hwn ychydig mwy - gosod y stecen gyda'r ochr braster ar y badell (felly ei bod yn sefyll lan) am funud neu ddwy cyn ei choginio naill ochr (felly bod y braster wedi'i goginio'n drylwyr).
I fynd gyda'r stecen, beth am saws Bearnaise? Llawer neisach na mwstard yn fy marn i:
2 melyn wy
110g menyn
2 sialot, torri'n fan
1 llwy fwrdd o daragon, torri'n flêr
Ymdoddi'r menyn mewn padell. Rhoi'r wye, sialots a tharagon mewn prosesydd bwyd (blits cyflym)
Ychwanegu'r menyn i'r cymysgedd a blitsys pellach tan bo'r saws yn drwchus.
**Paid a defnyddio marj neu 'lo-fat alternative' - neu fydd yn afiach** Mae'r taragon wir yn codi blas y cig.