Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:Mr Gasyth a ddywedodd:
Beth yw'r fantais o'i gorffwys ar ol coginio? Gas gen i stec oer!
Fyddai'n gweld fod curo'r stec yn ddidrugaredd efo llwy bren cyn ei choginio yn ei gwneud yn llawer mwy tendr a felly yn fwy o bleser i'w bwyta.
Hefyd, pan ti'n rhoi hi'n y badell chwilboeth gynta cwcia hi am 10 eiliad bach bob ochr gynta. Ma hyn yn selio'r stec ac yn atal hylifau blasus rhag dianc.
Fyddai bob amser yn cal fy stec efo nionod a menyn garlleg.
Gadael i'r gwres dreiddio drwy'r stecen fi'n credu.
Ar ol coginio stec mae'r ffeibrs yn y cig yn dal i tensio. Wrth adael iddi orffwys ma'r ffeibrs yma'n ymlacio sy'n gwneud y stec yn dendar neis
Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:Diddorol. O'n i wedi clywed rheol 'gorffwys am yr un faint â'r amser coginio'. Tair munud fydda' i'n coginio fy stec (dwy funud ar un ochr, munud ar yr ochr arall). Oes rhaid gorffwys am saith munud? Mae hynna'n ymddangos yn eithafol.
Rhyw foi ddudodd wrtha fi felly dyna dwi di bod yn neud ers hynny. Sirloin dew a'i sealio hi bob ochr mewn padell chwilboeth am funud bob ochr, wedyn munud arall bob ochr i goginio'r cig tua chwarter ffordd drwadd bob ochr, wedyn gadael iddi orffwys am chwech munud. Mae'r gwaed yn piso allan o'r canol pan ti'n torri hi
Sirloin di'r ffefret gin i, ddim mor keen ar fillet. Dwi'n ffan o rump a rib eye hefyd
Not my fault. Monkey bastard hands!
WHAT!? Am I holding a crock of shit!? Tell me something. Is this hospital called "St. Crock of Shit"!?