Doctor Sanchez a ddywedodd:Ma Charlestons ar chippy alley yng Nghaerdydd yn gneud stecs penigamp, mynd yna bob tro dwi lawr yna bron. Y Charleston steak di'r gora. Sgin i'm syniad be di'r sos o'n mae o'n blydi anhygoel.
Heb fod yna ers ache, ydy Dennis dal yna a'r 'Black Pad' fel o'n ni'n ei harfer galw hi (fenyw enfawr o'r Groeg)? Ar un adeg o'n i'n mynd 'na mor aml, roedd Dennis yn cadw lle i ni ar bwys y ffenestr yn y wicker chairs yn edrych ar y pwr saps yn ciwio i fynd mewn i'r Philharmonic. Y peth gore am y pryd stecen oedd y 'deep fried battered cauliflower'.