Tudalen 1 o 2

Coginio'r stecen berffaith

PostioPostiwyd: Mer 25 Maw 2009 2:39 pm
gan Gwahanglwyf Dros Grist
Un o'r tips gorau i fi eu cael yn ddiweddar oedd i iro'r stecen cyn ei choginio, yn hytrach nag iro'r badell. Ti wedyn yn cael padell sych grimp ac yn ei chynhesu nes ei bod hi'n grasboeth ac yn rhoi dy stecen mewn. Mae hyn yn golygu nad wyt ti'n caramaleiddio tu fas i'r stec ond bod y canol yn dal i fod yn oer. Mae gadael i'r stecen orffwys ar ôl ei choginio'n bwysig hefyd.

Unrhyw dips eraill?

(O.N. HoR, paid ti â meiddio sôn gair am y Mochyn ffycin Du)

Re: Coginio'r stecen berffaith

PostioPostiwyd: Mer 25 Maw 2009 2:58 pm
gan Doctor Sanchez
Y rheol 10 munud. Os ti'n cwcio stec am 6 munud gad iddi orffwys am 4 munud. Os ti'n cwcio hi am 4 munud gorffwysa hi am 6 ayyb.

A digon o halen a pupur cyn ei ffrio hi. Sos brown a nionod di ffrio efo'r stec drosti. Be gei di well?

Re: Coginio'r stecen berffaith

PostioPostiwyd: Mer 25 Maw 2009 3:20 pm
gan Gwahanglwyf Dros Grist
Doctor Sanchez a ddywedodd:Y rheol 10 munud. Os ti'n cwcio stec am 6 munud gad iddi orffwys am 4 munud. Os ti'n cwcio hi am 4 munud gorffwysa hi am 6 ayyb.

A digon o halen a pupur cyn ei ffrio hi. Sos brown a nionod di ffrio efo'r stec drosti. Be gei di well?


Diddorol. O'n i wedi clywed rheol 'gorffwys am yr un faint â'r amser coginio'. Tair munud fydda' i'n coginio fy stec (dwy funud ar un ochr, munud ar yr ochr arall). Oes rhaid gorffwys am saith munud? Mae hynna'n ymddangos yn eithafol.

Re: Coginio'r stecen berffaith

PostioPostiwyd: Mer 25 Maw 2009 5:49 pm
gan Mr Gasyth
Beth yw'r fantais o'i gorffwys ar ol coginio? Gas gen i stec oer!

Fyddai'n gweld fod curo'r stec yn ddidrugaredd efo llwy bren cyn ei choginio yn ei gwneud yn llawer mwy tendr a felly yn fwy o bleser i'w bwyta.

Hefyd, pan ti'n rhoi hi'n y badell chwilboeth gynta cwcia hi am 10 eiliad bach bob ochr gynta. Ma hyn yn selio'r stec ac yn atal hylifau blasus rhag dianc.

Fyddai bob amser yn cal fy stec efo nionod a menyn garlleg.

Re: Coginio'r stecen berffaith

PostioPostiwyd: Iau 26 Maw 2009 12:24 am
gan Gwahanglwyf Dros Grist
Mr Gasyth a ddywedodd:Beth yw'r fantais o'i gorffwys ar ol coginio? Gas gen i stec oer!

Fyddai'n gweld fod curo'r stec yn ddidrugaredd efo llwy bren cyn ei choginio yn ei gwneud yn llawer mwy tendr a felly yn fwy o bleser i'w bwyta.

Hefyd, pan ti'n rhoi hi'n y badell chwilboeth gynta cwcia hi am 10 eiliad bach bob ochr gynta. Ma hyn yn selio'r stec ac yn atal hylifau blasus rhag dianc.

Fyddai bob amser yn cal fy stec efo nionod a menyn garlleg.


Gadael i'r gwres dreiddio drwy'r stecen fi'n credu.

Re: Coginio'r stecen berffaith

PostioPostiwyd: Iau 26 Maw 2009 8:46 am
gan Doctor Sanchez
Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:Mr Gasyth a ddywedodd:
Beth yw'r fantais o'i gorffwys ar ol coginio? Gas gen i stec oer!

Fyddai'n gweld fod curo'r stec yn ddidrugaredd efo llwy bren cyn ei choginio yn ei gwneud yn llawer mwy tendr a felly yn fwy o bleser i'w bwyta.

Hefyd, pan ti'n rhoi hi'n y badell chwilboeth gynta cwcia hi am 10 eiliad bach bob ochr gynta. Ma hyn yn selio'r stec ac yn atal hylifau blasus rhag dianc.

Fyddai bob amser yn cal fy stec efo nionod a menyn garlleg.

Gadael i'r gwres dreiddio drwy'r stecen fi'n credu.


Ar ol coginio stec mae'r ffeibrs yn y cig yn dal i tensio. Wrth adael iddi orffwys ma'r ffeibrs yma'n ymlacio sy'n gwneud y stec yn dendar neis

Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:Diddorol. O'n i wedi clywed rheol 'gorffwys am yr un faint â'r amser coginio'. Tair munud fydda' i'n coginio fy stec (dwy funud ar un ochr, munud ar yr ochr arall). Oes rhaid gorffwys am saith munud? Mae hynna'n ymddangos yn eithafol.


Rhyw foi ddudodd wrtha fi felly dyna dwi di bod yn neud ers hynny. Sirloin dew a'i sealio hi bob ochr mewn padell chwilboeth am funud bob ochr, wedyn munud arall bob ochr i goginio'r cig tua chwarter ffordd drwadd bob ochr, wedyn gadael iddi orffwys am chwech munud. Mae'r gwaed yn piso allan o'r canol pan ti'n torri hi :D

Sirloin di'r ffefret gin i, ddim mor keen ar fillet. Dwi'n ffan o rump a rib eye hefyd

Re: Coginio'r stecen berffaith

PostioPostiwyd: Iau 26 Maw 2009 4:29 pm
gan Gwahanglwyf Dros Grist
Doctor Sanchez a ddywedodd:Ar ol coginio stec mae'r ffeibrs yn y cig yn dal i tensio. Wrth adael iddi orffwys ma'r ffeibrs yma'n ymlacio sy'n gwneud y stec yn dendar neis


Aye, ti'n iawn. Wedi dechrau rhoi mwy o amser i'r cig 'ymlacio' wrth goginio cinio dydd Sul. Mae'n gwneud byd o wahaniaeth o ran ansawdd y cig a ti hefyd yn cael mwy o sudd i wneud y grefi wrth i'r cig orffwys.

O.N. Un pwynt da arall yw cymryd y stecen o'r oergell am gwpwl o oriau cyn ei choginio hefyd.

Re: Coginio'r stecen berffaith

PostioPostiwyd: Gwe 27 Maw 2009 4:31 pm
gan Mr Gasyth
Jest isho deud mod i'n cal stecen i swper heno ac yn bwriadu cymrys sylw o awgrymiadau pawb.

Cewch adborth ddydd Llun!

Re: Coginio'r stecen berffaith

PostioPostiwyd: Gwe 27 Maw 2009 6:03 pm
gan Duw
Yn bersonol dwi bron ddim yn ei choginio o gwbl - hoffi'r peth yn las. Brownio'r ddwy ochr yn unig a lawr y llwnc â hi. Fy hoff gig eidion yw stec 'tartare'. Dwi pob amser yn cael hwn y diwrnod cynta'r gwylie'n Ffrainc.

Ffefryn arall yw stecen fflorentîn - asgwrn-T enfawr - i'w rhannu rhwng 2 - hefyd chateaubriand (os ydych yn mynd i Garcon ym Mae Caerdydd - mae'n rhaid trio hwn - eto i rannu rhwng 2).

Parthed y coginio - cytuno gyda gosod olew ar y cig, ychydig o bupur a halen ar y ddwy ochr hefyd cyn ei frownio. Gyda sirloin, er fy mod yn hoffi stecen las, byddaf yn coginio hwn ychydig mwy - gosod y stecen gyda'r ochr braster ar y badell (felly ei bod yn sefyll lan) am funud neu ddwy cyn ei choginio naill ochr (felly bod y braster wedi'i goginio'n drylwyr).

I fynd gyda'r stecen, beth am saws Bearnaise? Llawer neisach na mwstard yn fy marn i:

2 melyn wy
110g menyn
2 sialot, torri'n fan
1 llwy fwrdd o daragon, torri'n flêr

Ymdoddi'r menyn mewn padell. Rhoi'r wye, sialots a tharagon mewn prosesydd bwyd (blits cyflym)
Ychwanegu'r menyn i'r cymysgedd a blitsys pellach tan bo'r saws yn drwchus.

**Paid a defnyddio marj neu 'lo-fat alternative' - neu fydd yn afiach** Mae'r taragon wir yn codi blas y cig.

Re: Coginio'r stecen berffaith

PostioPostiwyd: Gwe 27 Maw 2009 11:13 pm
gan Doctor Sanchez
Ma Charlestons ar chippy alley yng Nghaerdydd yn gneud stecs penigamp, mynd yna bob tro dwi lawr yna bron. Y Charleston steak di'r gora. Sgin i'm syniad be di'r sos o'n mae o'n blydi anhygoel.