Tudalen 2 o 2

Re: Coginio'r stecen berffaith

PostioPostiwyd: Sad 28 Maw 2009 2:03 pm
gan Duw
Doctor Sanchez a ddywedodd:Ma Charlestons ar chippy alley yng Nghaerdydd yn gneud stecs penigamp, mynd yna bob tro dwi lawr yna bron. Y Charleston steak di'r gora. Sgin i'm syniad be di'r sos o'n mae o'n blydi anhygoel.

Heb fod yna ers ache, ydy Dennis dal yna a'r 'Black Pad' fel o'n ni'n ei harfer galw hi (fenyw enfawr o'r Groeg)? Ar un adeg o'n i'n mynd 'na mor aml, roedd Dennis yn cadw lle i ni ar bwys y ffenestr yn y wicker chairs yn edrych ar y pwr saps yn ciwio i fynd mewn i'r Philharmonic. Y peth gore am y pryd stecen oedd y 'deep fried battered cauliflower'.

Re: Coginio'r stecen berffaith

PostioPostiwyd: Llun 30 Maw 2009 8:09 am
gan Gwahanglwyf Dros Grist
Duw a ddywedodd:

'ow would ewe like it cooked, moi friend?

Re: Coginio'r stecen berffaith

PostioPostiwyd: Llun 30 Maw 2009 10:01 am
gan Mr Gasyth
Stecen hyfryd nos wener. Ychwanegu halen a phupur cyn ei choginio yn gwneud byd o wahaniaeth.

Nes i hefyd iro'r stecen yn hytrach na'r badel, a thra na wnaeth o ddim drwg dwi didm yn siwr pa welliant on i fod i'w ddisgwyl o hyn. Gwahanglwyf?

Re: Coginio'r stecen berffaith

PostioPostiwyd: Llun 30 Maw 2009 10:33 am
gan Gwahanglwyf Dros Grist
Mr Gasyth a ddywedodd:Stecen hyfryd nos wener. Ychwanegu halen a phupur cyn ei choginio yn gwneud byd o wahaniaeth.

Nes i hefyd iro'r stecen yn hytrach na'r badel, a thra na wnaeth o ddim drwg dwi didm yn siwr pa welliant on i fod i'w ddisgwyl o hyn. Gwahanglwyf?

O'n i'n ffeindio bod llawer llai o saim ar y stecen a bod y stecen yn fwy cyson, h.y. yn y gorffennol roedd tu fas y stecen wedi gorwneud a'r canol yn oer, gan fod yr olew'n codi'r tymheredd yn ormodol.

Re: Coginio'r stecen berffaith

PostioPostiwyd: Llun 30 Maw 2009 10:56 am
gan Mr Gasyth
Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:
Mr Gasyth a ddywedodd:Stecen hyfryd nos wener. Ychwanegu halen a phupur cyn ei choginio yn gwneud byd o wahaniaeth.

Nes i hefyd iro'r stecen yn hytrach na'r badel, a thra na wnaeth o ddim drwg dwi didm yn siwr pa welliant on i fod i'w ddisgwyl o hyn. Gwahanglwyf?

O'n i'n ffeindio bod llawer llai o saim ar y stecen a bod y stecen yn fwy cyson, h.y. yn y gorffennol roedd tu fas y stecen wedi gorwneud a'r canol yn oer, gan fod yr olew'n codi'r tymheredd yn ormodol.

Dwi'n meddwl dy fod yn iawn - roedd hi'n sicir yn llai seimllyd.

Dal i feddwl mai'r pell allweddol ydi rhoi cweir iddi efo llwy bren. Hefyd yn eitha hwyl!

Re: Coginio'r stecen berffaith

PostioPostiwyd: Llun 30 Maw 2009 10:17 pm
gan krustysnaks
Dwi'n rhoi olew ar y cig hefyd, gyda digon o halen, pupur a rhosmari ffresh. Hyfryd.

Re: Coginio'r stecen berffaith

PostioPostiwyd: Maw 31 Maw 2009 6:53 pm
gan Duw
Dwi'n defnyddio padell 'griddle' sy'n casglu'r holl saim a'i dynnu i ffwrdd o'r cig. Er bo rhyw faint o saim yn iawn, mae gormod yn tynnu blas y cig i ffwrdd wrth orchuddio'r ceg a'r tafod. Hefyd mae'n rhoi'r cris-cros cheesey steil '70'au i'r stecen - retro iawn.