Tudalen 1 o 2

moules marinieres

PostioPostiwyd: Llun 06 Ebr 2009 7:47 pm
gan ceribethlem
Oes unrhyw un yn coginio moules marinieres ffres? Pa rysait i chi'n defnyddio? Byddai'n chwilio am yr un fi'n defnyddio wedyn. 'Dy'n nhw byth yn blasu cystal a'r rhai o ffrainc, er i fi brynu sosban moules arbennig o TKMaxx pan yn over-excited ar ol dod nol o Ffrainc!

Re: moules marinieres

PostioPostiwyd: Llun 06 Ebr 2009 7:56 pm
gan Gwahanglwyf Dros Grist
ceribethlem a ddywedodd:Oes unrhyw un yn coginio moules marinieres ffres? Pa rysait i chi'n defnyddio? Byddai'n chwilio am yr un fi'n defnyddio wedyn. 'Dy'n nhw byth yn blasu cystal a'r rhai o ffrainc, er i fi brynu sosban moules arbennig o TKMaxx pan yn over-excited ar ol dod nol o Ffrainc!

Dau neu dri shallot. Tri chwarter potel o win gwyn. Tunnell o moules. S'dim angen mwy.

Gol: mae'r Larousse Gastronomique yn awgrymu parsli, teim, dail llawryf a dwy lwyaid o finegr gwin gwyn wrth goginio, wedyn ychwanegu menyn i dwchu'r hylif ar ol tynnu'r moules.

Re: moules marinieres

PostioPostiwyd: Llun 06 Ebr 2009 11:09 pm
gan ceribethlem
Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:

Fi'n tueddu hwpo winwns cyffredin yn lle shallots, a hwpo parsli mewn. Dal heb pipo aar y rysait cywir, yfed achos gwylie twel'!

Re: moules marinieres

PostioPostiwyd: Llun 06 Ebr 2009 11:17 pm
gan ceribethlem
Anghofies i son am fach o arlleg mewn 'na 'fyd.

Re: moules marinieres

PostioPostiwyd: Llun 06 Ebr 2009 11:49 pm
gan Duw
dyna fe - ychydig o arlleg i wneud sens o roi'r perllys. Moules ger y Moulin, hyfryd. Peth gwitha am y diawled yw sgrwbo nhw a thynnu'r barfau - potsh llwyr, yn enwedig os wyt ti' bita tunnell o nhw. Gas da fi'r blydi things 'vac packed' neu 'sterile' o Tescos.

Re: moules marinieres

PostioPostiwyd: Llun 06 Ebr 2009 11:58 pm
gan ceribethlem
Duw a ddywedodd:dyna fe - ychydig o arlleg i wneud sens o roi'r perllys. Moules ger y Moulin, hyfryd. Peth gwitha am y diawled yw sgrwbo nhw a thynnu'r barfau - potsh llwyr, yn enwedig os wyt ti' bita tunnell o nhw. Gas da fi'r blydi things 'vac packed' neu 'sterile' o Tescos.

Bland rhyfedda ondyn nhw

Re: moules marinieres

PostioPostiwyd: Maw 07 Ebr 2009 8:44 am
gan Tracsiwt Gwyrdd
da chi'm yn rhoi hufen? dwi rioed di cwcio nhw - dwi'm yn dda iawn am allu delio efo petha oedd / sydd yn fyw. ond dwi wastad di cymyd mai nionod, garlleg, 'urbs, gwin a hufen oedd o. iym iym 'sa nhw neis wan.
ceribethlem a ddywedodd:'Dy'n nhw byth yn blasu cystal a'r rhai o ffrainc!

pan o'n i'n cannes y son oedd mai cregyn gleision o ogledd cymru oedda' ni'n futa yn y bwytai! yr eironi.

Re: moules marinieres

PostioPostiwyd: Maw 07 Ebr 2009 9:37 am
gan Gwahanglwyf Dros Grist
Tracsiwt Gwyrdd a ddywedodd:da chi'm yn rhoi hufen? dwi rioed di cwcio nhw - dwi'm yn dda iawn am allu delio efo petha oedd / sydd yn fyw. ond dwi wastad di cymyd mai nionod, garlleg, 'urbs, gwin a hufen oedd o. iym iym 'sa nhw neis wan.
ceribethlem a ddywedodd:'Dy'n nhw byth yn blasu cystal a'r rhai o ffrainc!

pan o'n i'n cannes y son oedd mai cregyn gleision o ogledd cymru oedda' ni'n futa yn y bwytai! yr eironi.

Nid moules mariniere fydden nhw wedyn.

Re: moules marinieres

PostioPostiwyd: Maw 07 Ebr 2009 10:01 am

Moules Normandie fyddan nhw wedyn. 'Na beth oedden nhw'n cael eu galw yn Normandi ta beth.

Re: moules marinieres

PostioPostiwyd: Maw 07 Ebr 2009 10:03 am
gan Tracsiwt Gwyrdd
Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:
Tracsiwt Gwyrdd a ddywedodd:da chi'm yn rhoi hufen? dwi rioed di cwcio nhw - dwi'm yn dda iawn am allu delio efo petha oedd / sydd yn fyw. ond dwi wastad di cymyd mai nionod, garlleg, 'urbs, gwin a hufen oedd o. iym iym 'sa nhw neis wan.
ceribethlem a ddywedodd:'Dy'n nhw byth yn blasu cystal a'r rhai o ffrainc!

pan o'n i'n cannes y son oedd mai cregyn gleision o ogledd cymru oedda' ni'n futa yn y bwytai! yr eironi.

Nid moules mariniere fydden nhw wedyn.

pam? achos bo na hufen 'ynyn nhw neu achos bo nhw'n dod o ogledd cymru?! :?