gan Duw » Maw 12 Mai 2009 6:54 pm
Ro'n i'n arfer gwneud y stwff yn rheolaidd rhyw 20 blynedd yn ol. Anghenion fel dwi'n cofio:
Tun malt (llai o ffys na defnyddio hops a hwnna i gyd) o safon uchel; burum y bragwr; siwgr (glwcos - NID siwgr cyffredin [swcros] - y rheswm am hyn yw bod y burum yn grofod treulio'r swcros i glwcos yn gyntaf - er bydd dal yn gweithio); bwced eplesu; tabledi steryllu; pibell siphon i dynnu'r cwrw unwaith iddo eplesu; hydromedr (i fesur dwysedd cymharol y cwrw - mesur o gynnwys siwgr/alcohol); casgen wasgedd a chwistrell CO2 NEU poteli bragu gyda thopiau cywir.
Unwaith i'r eplesiad orffen yn y bwced, gallet ychwanegu isinglass finings i glirio'r cwrw (gwaddod yn cwympo i'r gwaelod). Yna bydd angen defnyddio siphon i dynnu'r cwrw allan o bwced i'r cynhwysydd newydd (casgen neu poteli). Bydd angen ychwanegu mwy o siwgr i'r cynhwysydd newydd. Ond gofal - gormod a bydd y cwrw'n rhy felys, dim digon a fydd yn weddol fflat.
Y kits o'n i'n arfer defnyddio yn gwneud 40 peint. Roedd siop arbennig yn Whitchurch Road yng Nghaerdydd a oedd yn siop home brew un pwrpas - ffantastig. Roedd y boi - bachan o India yn rhedeg y fferyllfa drws nesaf hefyd. Dwi'n meddwl ei fod wedi cau lawr nawr yn anffodus.
Mae pros a cons o ddefnyddio casgen a photeli. O'r cof:
Poteli - gwaddod mwdlyd yn ffurfio ar waelod y poteli - angen eu harllwys yn ofalus - anodd i swigio o'r botel ei hun.
Casgen - llawer o wasgedd - gall y cwrw ddod allan fel ewyn o'r tap os nac ydy'r gwasgedd yn cael ei rhyddhau.
Rhaid dweud, ro'n i'n hoffi hen home brew - atgoffa i o sut ddyle cwrw flasu - fel yr hen Buckley's cachlyd - iymi.
'Sda fi gynnig i'r rwtsh creamflow sydd wedi cropian lan yn bobman dyddie 'ma. Dyle'r f*wits 'na a ddechreuoedd y rot (Caffrey's dwi'n meddwl) cael eu sbaddu.
**GOLYGU**
Paid a phoeni gormod am rheoli tymheredd - bydd y burum yn gweithio'n iawn ar bob tymheredd (hyd at 40 gradd C). Mae cyfradd adwaith yn cynyddu'n sylweddol o 16 gradd C i fyny - er jest angen bod yn amyneddgar - mae'n barod pan fydd y hydromedr yn dweud ei fod yn barod - NID CYN.
O ran faint o le: angen digon o le yn y gegin i steryllu bwced/casgen/poteli - dyna fe. Gall fod hyd o hosepipe (wedi'i steryllu) yn ddefnyddiol i lenwi'r bwced gyda dwr. Mae'n bosib bydd angen poethi'r tun malt mewn sosban fawr o ddwr berwedig er mwyn meddalu'r cynnwys. Hefyd posib bydd yn rhaid arllwys dwr berwedig ar ben y malt i hydoddi'r holl lot cyn ychwanegu'r dwr oer. Ychwanega'r siwgr a chymysgu - eto gyda rhywbeth sydd wedi'i steryllu (e.e. sbatwla). Os yw'r dwr yn dwym iawn ar ol llenwi'r bwced - PAID ag ychwanegu'r burum tan ei fod o gwmpas tymheredd yr ystafell, neu fyddid yn ei ladd. Unwaith i ti osod y bwced eplesu mewn stafell, angen digon o le i ddefnyddio siphon o'r bwced i'r gasgen/poteli. Er mwyn gwneud hwn yn effeithiol, bydd angen bod y bwced ar lefel yn uwch na'r cynhwysydd/cynwysyddion rwyt am lenwi. Er bod temtasiwn i yfed y cwrw wrth i ti ddefnyddio'r siphon - PAID - gei di fola tost - mae'n rhaid iddo aeddfedu (mae'n blasu'n ofnadwy beth bynnag).
**GOLYGU ETO
Jest i ddweud, er bod burum yn gallu godde canran alcohol o tua 15% (ar y mwya), paid a cheisio cynhyrchu cwrw â chrynodiad uchel iawn o alcohol ar dy dro cynta - bydd cwrw cryf yn tueddu bod yn drwchus, melys ac anodd i'w yfed (e.e. barley wine). Stic i'r canllawie ar y tun neu'r rysait sydd gennyt. Dechreua gyda kit, ac ar ol sawl llwyddiant gallet symud ymlaen i ddefnyddio hops, barlys a chynhwysion o dy ddewis.
Affach dan, dwi'n meddwl af allan fory a phrynu kit arall - diolch Mr G.