gan Mr Gasyth » Mer 27 Mai 2009 11:58 am
Y gwaith potelu wedi eu wneud ddydd Llun. Dim gymaint o lanast ag oeddwn i wedi ei ofni ac o arogl y cwrw ddywedwn i fod popeth 'on'track' ar gyfer rhywbeth digon yfadwy. Dim poteli wedi ffrwydro eto beth bynnag!
Ron i wedi gobeithio y byddai'n barod ar gyfer yr FA Cup Final penwythnos yma ond mae hynny'n anhebygol beryg gan nad oes arwydd o glirio arno eto beth bynnag ac mai dim ond 5 niwrnod fydd o wedi bod yn y poteli ebryn hynny beth bynnag (mae angen o leia deg mae'n debyg).
Wedi deud hynny, os bydd canlyniad ffafriol ddydd Sadwrn, fydd gen i ddim dewis ond ei enwi mewn teyrnged i'r Moyes-aiah.