Tudalen 2 o 3

Re: Bragu Cartre

PostioPostiwyd: Llun 18 Mai 2009 2:15 pm
gan Ray Diota
Mr Gasyth a ddywedodd:
Rhys a ddywedodd:Alla i ddim cynnig unrhyw gyngor bragu ond dw i'n fwy na bodlon gwifoddoli fy ngwasanaethau blasu pan ddau 'dydd y farn'.

Oes gyda ti enw mewn golwg ar gyfer dy gwrw, neu wyt ti am aros nes ei flasu'n gyntaf?


Paid poeni Rhys, rwyt ti ar ben fy rhestr beirniaid!

Ddim yn siwr os oes gen i hawl enwi cwrw dwi wedi bragu allan o kit. Braidd fel enwi microwave meal?


:lol:

ma raid i ti gal enw 'chan!!

Re: Bragu Cartre

PostioPostiwyd: Llun 18 Mai 2009 3:05 pm
gan Duw
Ray Diota a ddywedodd:ma raid i ti gal enw 'chan!!


Nid Mr. Gas?! :lol:

Re: Bragu Cartre

PostioPostiwyd: Maw 19 Mai 2009 1:14 pm
gan Rhys
Gwynt y Gasyth?

Re: Bragu Cartre

PostioPostiwyd: Maw 19 Mai 2009 1:45 pm
gan Mr Gasyth
Hei hei, be sy'n neud chi feddwl bydd o mor 'gassy'? Bydd wedi carboneiddio yn berffaith, gewch chi weld!

Gyda llaw Duw, dwi'n cychwyn deall be ti'n feddwl wrth arogl yr eplysu - hyfryd o beth. Dwi'n ei chael hi'n anodd cadw draw o'r box room!

Re: Bragu Cartre

PostioPostiwyd: Mer 20 Mai 2009 8:16 am
gan Mr Gasyth
datblygiad annisgwyl.

mae'n edrych yn debyg fod yr eplysiad weid gorffen, a hynny ar ol dim ond deuddydd. ddim yn siwr sut mae hyn wedi digwydd - mi gadwes i o ar y tymheredd iawn a phopeth. Beth bynnag, mi gymrai fesuriad heno ac os yw'n barod bydd rhaid ei botelu yn gynnar.

Re: Bragu Cartre

PostioPostiwyd: Mer 27 Mai 2009 11:58 am
gan Mr Gasyth
Y gwaith potelu wedi eu wneud ddydd Llun. Dim gymaint o lanast ag oeddwn i wedi ei ofni ac o arogl y cwrw ddywedwn i fod popeth 'on'track' ar gyfer rhywbeth digon yfadwy. Dim poteli wedi ffrwydro eto beth bynnag!

Ron i wedi gobeithio y byddai'n barod ar gyfer yr FA Cup Final penwythnos yma ond mae hynny'n anhebygol beryg gan nad oes arwydd o glirio arno eto beth bynnag ac mai dim ond 5 niwrnod fydd o wedi bod yn y poteli ebryn hynny beth bynnag (mae angen o leia deg mae'n debyg).

Wedi deud hynny, os bydd canlyniad ffafriol ddydd Sadwrn, fydd gen i ddim dewis ond ei enwi mewn teyrnged i'r Moyes-aiah.

Re: Bragu Cartre

PostioPostiwyd: Iau 08 Gor 2010 7:05 pm
gan ceribethlem
Shwd oedd y cwrw yn y diwedd Mr Gasyth?
Fi wedi dechre bragu seidir dros yr wythnose dwetha 'ma. Ddyle fe fod yn barod mewn rhyw bythefnos!
Nes i hwn gyda sudd afal o Lidl, ond os mae'n flasus, yna falle buddsoddi mewn peiriant echdynnu sudd o afalau bydd y cam nesaf.

Re: Bragu Cartre

PostioPostiwyd: Iau 08 Gor 2010 7:11 pm
gan sian
ceribethlem a ddywedodd:...yna falle buddsoddi mewn peiriant echdynnu sudd o afalau bydd y cam nesaf.


Beth yw dy waith di, 'fyd? A, ie, athro gwyddoniaeth :lol: :lol:

Re: Bragu Cartre

PostioPostiwyd: Iau 08 Gor 2010 7:49 pm
gan ceribethlem
sian a ddywedodd:
ceribethlem a ddywedodd:...yna falle buddsoddi mewn peiriant echdynnu sudd o afalau bydd y cam nesaf.


Beth yw dy waith di, 'fyd? A, ie, athro gwyddoniaeth :lol: :lol:

Ai, pam? :?

Re: Bragu Cartre

PostioPostiwyd: Iau 08 Gor 2010 7:51 pm
gan sian
ceribethlem a ddywedodd:
sian a ddywedodd:
ceribethlem a ddywedodd:...yna falle buddsoddi mewn peiriant echdynnu sudd o afalau bydd y cam nesaf.


Beth yw dy waith di, 'fyd? A, ie, athro gwyddoniaeth :lol: :lol:

Ai, pam? :?


echdynnu - dead give-away! :D