Tudalen 3 o 3

Re: Bragu Cartre

PostioPostiwyd: Iau 08 Gor 2010 8:17 pm
gan ceribethlem
sian a ddywedodd:
sian a ddywedodd:
ceribethlem a ddywedodd:...yna falle buddsoddi mewn peiriant echdynnu sudd o afalau bydd y cam nesaf.


Beth yw dy waith di, 'fyd? A, ie, athro gwyddoniaeth :lol: :lol:

echdynnu - dead give-away! :D

Gair o safon yw echdynnu :D

Re: Bragu Cartre

PostioPostiwyd: Maw 13 Gor 2010 8:57 pm
gan Rhys
ceribethlem a ddywedodd:Shwd oedd y cwrw yn y diwedd Mr Gasyth?
Fi wedi dechre bragu seidir dros yr wythnose dwetha 'ma. Ddyle fe fod yn barod mewn rhyw bythefnos!
Nes i hwn gyda sudd afal o Lidl, ond os mae'n flasus, yna falle buddsoddi mewn peiriant echdynnu sudd o afalau bydd y cam nesaf.


Blasais i ei ymdrech cytntaf (yn defnyddio kit) a ces i fy synnu pa mor neis oedd o.

Gwnaeth Mr G ei aol batch 'o scratch' ac roedd hwnnw'n well fyth. Mae ei drydydd batch yn barod i'w flasu a dw i'n gobiethio nad ydw i wedi ei gadel yn rhy hwyr cyn mynd draw i'w flasu.

Re: Bragu Cartre

PostioPostiwyd: Mer 14 Gor 2010 10:21 am
gan Hedd Gwynfor
Ges i flas ar gwrw Mr Gasyth hefyd mewn barbeciw cwpwl o wythnosau'n ól. Hyfryd iawn! :D