Tudalen 1 o 1

Bara Lawr

PostioPostiwyd: Mer 10 Meh 2009 4:41 pm
gan Awen92
Tri mis yn ol, es i ar daith i'r arfordir i astudio bioleg y traeth.
Ar y creigiau, roedd llawer o wymon brown ffiaidd, lafwr, meddai rhywun, felly meddylais i, 'Beth am wneud bara lawr?'

Felly, nes i ei casglu e, es i a fe gatre, syllais i ar y we am resipi Bara Lawr, ond yn ol y resipi, mae rhaid i goginio'r lafwr am bum awr! Allwn i ddim ei ferwi e am bum awr!
Penderfynais i goginio am hanner awr yn lle pum awr. Doedd dim ceirch 'da fi chwaith, felly nes i ddefnyddio bara, a llysiau blas, a fe nes i'n ffrio nhw am tua phum munud.

Roedden nhw'n ofnadwy! Ro'n nhw'n hollol diflasus, ac yn feddal dros ben, yn 'doughy' iawn, iawn.

I'r un traeth dwi'n mynd unwaith eto yr haf ma, a byddai'n casglu mwy o lafwr.

Beth aeth o le?
Ydy hi'n bosibl i wneud bara lawr neis, heb berwi am bum awr?

Re: Bara Lawr

PostioPostiwyd: Mer 10 Meh 2009 5:16 pm
gan Hogyn o Rachub
Dwi'n meddwl mai'r hyn aeth o'i le oedd dy fod ti heb ddilyn y rysait yn gywir o gwbl....!!

Re: Bara Lawr

PostioPostiwyd: Gwe 12 Meh 2009 3:00 pm
gan Kez
Hogyn o Rachub a ddywedodd:Dwi'n meddwl mai'r hyn aeth o'i le oedd dy fod ti heb ddilyn y rysait yn gywir o gwbl....!!


:lol: :lol: :lol:

Mae Hogyn yn iawn - ma rhaid dilyn y cyfarwyddiadau a sdim pwnyt trial arbed amser. Fi wpas ffowlyn yn y microdon unwaith er mwyn arbed amser ond dodd e ddim yn tasto'n iawn. A gwed y gwir, odd e'n amhosib ei fyta fe. Gida ffowlyn, ma rhaid ei ddigoni fe yn y ffwrn sbo fe'n barod ac ma rhaid berwi gwymon am bump awr os dyna ma nhw'n ei ddweud - sdim ffordd arall rownd e.

Dyma really gwd wefan sydd a fideos yn dangos iti shwt ma cwcan rwpath:

http://www.videojug.com/tag/food-and-drink/

Rho be ti'n moyn cwcan yn y search ac ma'r fideos 'ma yn popan lan a gwele bobol neis iawn yn dangos iti shwt ma neud bron popith yn y ffordd mwya syml. Fi wedi dilyn eu cyfarwyddiadau nhw gida tuna bake, lancashire hot pot a lots o bethach eraill.

Do it the video jug way - ma'n effin bril!

Re: Bara Lawr

PostioPostiwyd: Llun 22 Meh 2009 7:23 pm
gan Dili Minllyn
Oes, mae eisiau ei goginio am bum awr, a golchi lot o'r halen mas hefyd. Os wyt ti eisiau bara lawr da, mynd i siop bysgod i'r peth hawsaf.