Tudalen 1 o 2

Cyri Thai Gwyrdd

PostioPostiwyd: Gwe 17 Hyd 2003 2:55 pm
gan Jeni Wine
Weheeeeeei!
So fi di'r cynta i bostio rwbath ar hwn aiei?

Natha ni gyri thai gwyrdd neithiwr a mi oedd o'n lysh (jyst lluchio bodim i mewn a gobeithio'r gora natha ni)

Sgin rhywun rysait call? Faint o laeth mwnci (sori, coconyt) sydd 'i angan dwed?


mmmmmmmmm......

PostioPostiwyd: Gwe 17 Hyd 2003 3:01 pm
gan nicdafis
Diawl, ti'n glou!

Dyma <a href="http://asian-links.com/larry/thaicurry.html">un</a>, dyma <a href="http://rubymurray.com/curry/DisplayRecipe.asp?Name=Red+or+Green+Thai+Curry">un arall</a>, ac mae siwr o fod <a href="http://www.google.com/search?hl=cy&ie=ISO-8859-1&q=%22green+thai+curry%22&btnG=Chwilio+Google">lot mwy ble ffeindiais nhw</a>.

PostioPostiwyd: Gwe 20 Ion 2006 10:05 am
gan khmer hun
Dastes i hwn am tro cynta' pyddwrnod ac o'dd e'n hyfryd ac i'w weld yn hawdd. O's da rywun rysait clou, syml a llysieuol heb i fi chwilota'n lincs Nic? Ro'dd fy ffrind wedi iwsio lemongrass, a curry paste gwyrdd parod. Ddim yn siwr faint o laeth coco o'dd wedi'i roi.

PostioPostiwyd: Iau 26 Ion 2006 11:27 am
gan Nanog
Mae yna lyfr ar goginio bwyd Thai sydd yn weddol rhad ac yn dda. Rwyf wedi gweithio Cyri Thai ohono sawl gwaith.

Classic Thai Cooking - Step-By-Step Carol Bowen, Cara hobday, Sue Ashworth (Parragon) Isbn 0-7525-0136-4

Pan es i Lundain, cefais y past ar gyfer y cyri yn China town. yr enw oedd Maeseri curry Past. Dan

Cyri gwyrdd Thai-

PostioPostiwyd: Llun 30 Ion 2006 6:23 pm
gan croten ddrwg
Wel, ers ddod nol o Wlad Thai tua blwyddyn a hanner yn ol, dwi wedi troi mewn i ryw fath o expert ar gyri gwyrdd- gofynnwch i'm ffrindiau!!
Cwbwl sydd ishe yw aubergines, garlleg, courgettes, babycorn, madarch, lemongrass, winwns coch- ffrio'r cwbl, yna tua 2 din o laeth coconyt, a 2/3 lwyaid mawr o green curry paste- mwy os chi ishe fe'n ddigon cryf! - pupur du wrth gwrs. A na fe! Syml iawn! Lyfli. :)

Re: Cyri gwyrdd Thai-

PostioPostiwyd: Llun 30 Ion 2006 7:49 pm
gan Chwadan
croten ddrwg a ddywedodd:Wel, ers ddod nol o Wlad Thai tua blwyddyn a hanner yn ol, dwi wedi troi mewn i ryw fath o expert ar gyri gwyrdd- gofynnwch i'm ffrindiau!!
Cwbwl sydd ishe yw aubergines, garlleg, courgettes, babycorn, madarch, lemongrass, winwns coch- ffrio'r cwbl, yna tua 2 din o laeth coconyt, a 2/3 lwyaid mawr o green curry paste- mwy os chi ishe fe'n ddigon cryf! - pupur du wrth gwrs. A na fe! Syml iawn! Lyfli. :)

PostioPostiwyd: Llun 30 Ion 2006 8:01 pm
gan Gwenllian Haf
mmm ma' cyri thai gwyrdd yn neis iawn! dw i licio ei neud o yn sbeisi drwy adio lot o peppers iddo! hyfryd! :D

PostioPostiwyd: Maw 31 Ion 2006 12:34 pm
gan croten ddrwg
Wel, mae e'n cadw yn y ffridg am tua 2 ddiwrnod, neu gallwch chi ei rewi :D

PostioPostiwyd: Maw 31 Ion 2006 12:38 pm
gan Nanog
croten ddrwg

Mi fyddai'n braf 'se ti'n rhoi lawr rywfaint o fesuriade. Dw'i eisiay trio dy rysait....Hwyl....

PostioPostiwyd: Maw 31 Ion 2006 12:52 pm
gan Chwadan
croten ddrwg a ddywedodd:Wel, mae e'n cadw yn y ffridg am tua 2 ddiwrnod, neu gallwch chi ei rewi :D

Gret - diolch :)
Dangosir pob amser fel UTC
Tudalen 1 o 2