Bwyd Calan Gaeaf i lyseuwyr

Gwell cwrw Cymru na llaeth Lloegr?

Cymedrolwr: Jeni Wine

Rheolau’r seiat
Lle i drafod pob dim sy'n ymwneud â Bwyd a Diod. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Bwyd Calan Gaeaf i lyseuwyr

Postiogan nicdafis » Gwe 17 Hyd 2003 2:57 pm

Nid mod i'n un, ond mae <a href="http://www.vegparadise.com/cookingwith.html">rysaitiau yma</a> yn edrych yn neis.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan brenin alltud » Gwe 17 Hyd 2003 3:52 pm

Fi'n "un" ers deunaw mlynedd ond dim mynedd byth edrych ar lincs pobol arna i ofn. Yn byw ar quorn a tofu a chaws feta a halloumi (diolch i'r crafwyr) a broccoli a chourgettes a phasta. Mmm... swnio'n afiach tydi?
'Sneb yn becso am yr oen / sneb yn becso am y poen...'
Rhithffurf defnyddiwr
brenin alltud
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 725
Ymunwyd: Maw 09 Medi 2003 4:28 pm
Lleoliad: gyda'r adar mân

Postiogan Chwadan » Gwe 17 Hyd 2003 5:42 pm

Dwi di troi'n llysieuwraig ers dod i coleg...ond dwi'm yn trio bod, dwi jyst ddim yn cin ar y lympia mawr o gig coch sy'n cal'u cynnig yma :x Felly dwi'n byw ar y bwydydd uchod (blaw Quorn) a brechdanna Marmeit wrth gwrs!
Rhithffurf defnyddiwr
Chwadan
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2578
Ymunwyd: Sul 16 Maw 2003 12:24 am
Lleoliad: :dailoelL

Postiogan sbeicsan » Gwe 17 Hyd 2003 8:40 pm

Dwi`n lysieuwraig ers 12mlynedd bron a allaim meddwl am fyta cig coch afiach lympiog a cig gwyn sy`n mynd yn sownd yn eich dannedd!!
Rhithffurf defnyddiwr
sbeicsan
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 34
Ymunwyd: Llun 12 Mai 2003 11:12 pm
Lleoliad: aberystwyth a sir fon

Postiogan Nick Urse » Sul 19 Hyd 2003 8:31 pm

brenin alltud a ddywedodd:Fi'n "un" ers deunaw mlynedd ond dim mynedd byth edrych ar lincs pobol arna i ofn. Yn byw ar quorn a tofu a chaws feta a halloumi (diolch i'r crafwyr) a broccoli a chourgettes a phasta. Mmm... swnio'n afiach tydi?


YYYYYYYch!!! Ma'shwr bo chdi'n rhechan fatha fferat 'di bod ar ffrensi ffacbys???!!!

(Gobeithio bo hynna 'di taflu dw^r oer dros dy ffansi bach di at y Nicar?!!)
Ara deg a fesul dipin ma' stwffio bys i din gwybedyn
Rhithffurf defnyddiwr
Nick Urse
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 78
Ymunwyd: Sul 21 Medi 2003 8:00 pm

Postiogan Conyn » Sul 19 Hyd 2003 10:45 pm

Shwmae heno, bawb.

Hmmm. 'Falau yw'r unig fwyd ar gyfer Calan Gaea'. Mewn padell llawn dwr. A dy ddwylo tu ol i dy gefn, wrth gwrs.

Mae'n nhw'n llawer llai tebyg o'ch hala i gnecu na llawer o'r bwydydd cwningen eraill 'ma, hefyd. Ystyriaeth bwysig mewn parti.

Twciwch, felly, a byddwch lawen.
Tri pheth sy'n anodd 'nabod
Dyn, derwen a diwarnod...
Rhithffurf defnyddiwr
Conyn
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 87
Ymunwyd: Sul 19 Hyd 2003 9:07 pm
Lleoliad: Dyfnderoedd y De


Dychwelyd i Bwyd a Diod

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 13 gwestai

cron