Mae is-deitl y seiat yma yn jôc wrth gwrs, ond mae'n wir bod well 'da fi prynu cwrw Cymru os oes dewis 'da fi - nid am resymau cenedlaetholgar, ond achos fy mod i'n lico cefnogi busnesau lleol.
Felly, beth yw'ch hoff gwrw Cymreig?
Fy enwebiad am y cwrw gorau yw Hen Darw Du gan <a href="http://www.tavern-on-tap.com/acatalog/Tavern_On_Tap_Bragdy_Ceredigion_Brewery_1.html">Fragdy Ceredigion</a>. Mae hyn yn real hedbanger o stowt, 6.2% ond mor esmwyth a phen-ôl Gwyneth Paltrow ar ôl iddi gael ei "Brazilian" misol.
Ym, sori.
Mae hwn yn gwrw da.
Mae'n ar gael trwy'r wefan uchod, ond mae'n anhygoel o ddrud fel 'na. Well i ti ddod lawr i Odre Ceredigion lle ti'n gallu ffeindio fe yn sawl siop lleol (yng Ngarej Brynhoffnant dw i'n arfer prynu fe) am c. £2 y botel.
Mae Blodeuwedd, yr un organig, yn neis hefyd.
Maen nhw i gyd yn hyfryd, dweud y gwir, ond Hen Darw Du yw'r unig un sy'n gyrru i fi feddwl am ben-ôl Gwyneth Paltrow.