Hoff gwrw Cymreig

Gwell cwrw Cymru na llaeth Lloegr?

Cymedrolwr: Jeni Wine

Rheolau’r seiat
Lle i drafod pob dim sy'n ymwneud â Bwyd a Diod. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Hoff gwrw Cymreig

Postiogan Maelor » Llun 18 Awst 2008 2:26 pm

finch* a ddywedodd:
Mr Gasyth a ddywedodd:Wedi confertio i Brains ers symyd i Gaerdydd. S.A yn neis, ond y Gold ydi'r gore!


Dwi wedi bod nol ar y bitter ers diwedd tymor brifysgol a ma'n rhaid dweud bod Rev James wedi dod yn ffefryn gyda fi. Mynd lawr yn haws na'r Brains' eraill.


:o :ofn:

Mae Rev James yn berryg bywyd. Local fi newydd gael o wedi'w rhoi i fewn. Ar ol un pnawn ar hwnnw dwi BYTH yn yfed o eto. Neis ond iesu (no pun intended) mae'n gryf - 4.9%.

Gold yn wychder
Maelor
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 87
Ymunwyd: Maw 07 Meh 2005 1:38 pm
Lleoliad: Wrecsam

Re: Hoff gwrw Cymreig

Postiogan finch* » Mer 20 Awst 2008 10:31 am

:crechwen:

Aye, deceptive yw'r hen Weinidiog Jams. Dwi'n brin o arian ar hyn o bryd felly heb gael siawns i gal sesiwn arno fe eto.

Peth arall diddorol dries i yn Grdydd odd Guinness Red. Blasu fel Guinnes ond taw bitter yw e. Odd e'm yn ffol o gwbwl wedi disgwyl rhyw Frankenstein yn yr un mowld a Brains 45.
Jeff Tarango - There must be two, three thousand people here!
Michael Stich - Well is it two or three?
Rhithffurf defnyddiwr
finch*
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2090
Ymunwyd: Gwe 03 Medi 2004 12:38 pm
Lleoliad: Yn cuddio

Re: Hoff gwrw Cymreig

Postiogan Maelor » Iau 21 Awst 2008 5:29 pm

Wel cysgu'n braf yn gadair oeddwn i ar ol ambell i beint yn ormod o'r anghenfil cryf a elwir y Rev James. Dwn i'm pa enwad oedd o'n pregethu ond rhaid bod nhw'n bobl caled!

Guinness Red yn neis, a rhaid i mi ddweud fy mod wedi mwyhau'r Brains 45 hefyd, rhywbeth refereshing neis amdano.
Maelor
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 87
Ymunwyd: Maw 07 Meh 2005 1:38 pm
Lleoliad: Wrecsam

Re: Hoff gwrw Cymreig

Postiogan Mr Gasyth » Llun 06 Gor 2009 11:14 am

Yn ddiweddar, wedi dod ar draws:

Rhymney Bitter - hyfryd o sdwff, torri syched fel dim arall. Mae yna Bevans Bitter o'r un bragdy ond doeddwn i ddim mor cin ar hwnnw.
Crow Valley Ale o Fragdy Cwmbran. Ddim yn cin o gwbl - yn wir methes i orffen y botel.
Toway Ale a Cothi Gold o Fragdy Ffos y Ffin. Rhain ar gael yn ASDA Leckwith ers ychydig wythnosdau. Hyfryd iawn ill dau ond rhaid bod yn ofalus o'r burum yng ngwaelod y botel!
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Re: Hoff gwrw Cymreig

Postiogan Duw » Llun 06 Gor 2009 10:45 pm

1. Felinfoel Double Dragon
2. Brains Dark
3. Brains S.A.
4. Rev. James

Mae rhai Tomos Watkin hefyd yn neis. Methu â godde Crow Valley, a'r rhai o Rymni. 'Cwrw Cachu Cymru' yw'r medal rodden i i'r rhain.

Er yr uchod fy ffefryn oedd Buckleys. Gwynto fel pen-ol y diawl ei hunan, ond bois bach, roedd fel yfed cwrw Dad (atgofion melys, er blas chwerw).

Sylwi 'sneb wedi rhoi Wrexham Lager lawr 'ma! Dyna beth odd diod werth wech - ych.
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Hoff gwrw Cymreig

Postiogan osian » Llun 06 Gor 2009 11:30 pm

Dwinna'n licio rev james a tomos watkin. gesh i beint o Hen Drwyn wsos o blaen fyd. dwim yn shwr pwy sy'n gneud hwnnw. golew oedd o
"I'm hugely confused Ted!"
Rhithffurf defnyddiwr
osian
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 627
Ymunwyd: Mer 20 Meh 2007 2:40 pm
Lleoliad: o flaen sgrin

Re: Hoff gwrw Cymreig

Postiogan finch* » Maw 07 Gor 2009 4:13 pm

Ges i beint o Cwrw HAf Tomos Watkins wthnos o'r blan, yn ffrindie i gyd yn mynd mlan amdano fe. Odd e'n iawn ond dim byd sbeshal yn bersonol. Falle effaith yr hype sai'n gwbod?
Jeff Tarango - There must be two, three thousand people here!
Michael Stich - Well is it two or three?
Rhithffurf defnyddiwr
finch*
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2090
Ymunwyd: Gwe 03 Medi 2004 12:38 pm
Lleoliad: Yn cuddio

Re: Hoff gwrw Cymreig

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Mer 08 Gor 2009 10:14 pm

Ar Mada a ddywedodd:
Cymro13 a ddywedodd:Cwrw Haf Thomos Watkins di'r boi


Ai ai! Wrth fy modd efo hwn! Ar werth yn Co-op mewn poteli, lyfli! Dim yn keen ar y Cwrw Braf ddo, rhy drwm a thywyll i mi.

Oes cwmni yng Nghymru yn gwneud medd?


Hwyr, mi wn, ond...

http://lmgtfy.com/?q=welsh+mead
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Re: Hoff gwrw Cymreig

Postiogan Rhys » Llun 02 Tach 2009 1:43 pm

Ar hyn o bryd, faswn i'n dweud fy hoff gwrw Cymreig yw unhybeth gan Otley's (yn arbennig O Garden) neu gan Vale of Glamorgan (yn arbennig Wheats Occurin?)

Geraint a ddywedodd:Gyda llaw, ma llyfr Lyn Ebenezer, 'Cwrw Cymru', yn ddiddorl iawn am hanes bragu cwrw, sydd be sa chi'n diswgyl ar ol blynyddoedd o ymchwil!


Wedi darllen hwn, mae o'n ddifyr dros ben a hadd ei ddarllen

Geraint a ddywedodd:Oes rhywyn yn gwybod am fragdu sydd yn cynnig taith o'i gwmpas?


Mae anghenau lleol CAMRA yn tueddu i drefnu teithiau. Tua pythefnos yn ol, aeth cangen CAMRA Cardydd o gwmpas bragdai Abertawe.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2176
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 8:07 pm
Lleoliad: Caerdydd

Nôl

Dychwelyd i Bwyd a Diod

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 5 gwestai