Hoff gwrw Cymreig

Gwell cwrw Cymru na llaeth Lloegr?

Cymedrolwr: Jeni Wine

Rheolau’r seiat
Lle i drafod pob dim sy'n ymwneud â Bwyd a Diod. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Madrwyddygryf » Sad 18 Hyd 2003 10:40 am

Geraint a ddywedodd:Triwch y cwrw almaeneg yn y Chapter, chi sydd yn Gaerydd, ma nhw'n hyfyrd.


Mae na cwrw gwych yn Chapter, yr un ffefryn oedd un o ffindir.
Ond fy ffefryn erioed oedd Woosh nes i gael mewn tafarndu yn Abertawe, blas anghygoel. :lol:
Clwb Rhedeg Caerdydd. Clwb Rhedeg ar gyfer siaradwyr Cymraeg.
Bob nos Lun 6:00pm tu allan i Athronfa Chwareon, Gerddi Sofia.|
Rhithffurf defnyddiwr
Madrwyddygryf
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2230
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 6:32 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Conyn » Sul 19 Hyd 2003 11:09 pm

Brains SA - 'cic fatha mul, blas fatha wermod, pen fatha bwcad y bore wedyn' - rwy'n dyfynnu o 'nghof, ond os nagych chi wedi darllen Dyddiadur Dyn Dwad, fe ddylech chi.

A beth am Buddy Marvellous, Cwrw Bragdy Bryncelyn o Gwmtawe? Oes rhwywun arall wedi profi'r stwff?
Tri pheth sy'n anodd 'nabod
Dyn, derwen a diwarnod...
Rhithffurf defnyddiwr
Conyn
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 87
Ymunwyd: Sul 19 Hyd 2003 9:07 pm
Lleoliad: Dyfnderoedd y De

Postiogan Hogyn o Rachub » Maw 21 Hyd 2003 10:47 am

Aaaaach, fedrai'm diodda Brains! Fatha fineg!

(oes'na seidar Gymraeg o gwbl?)
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Postiogan Norman » Maw 21 Hyd 2003 1:23 pm

Dwi di darllen yn rwla bo no le neud cwrw yn dod i Borthmadog yn eitha buan, casgen fydd hi dwin ama.
allan o afal dy gyrraedd dychmygol
|
Chwyliwch amdanai ar Flickr, YouTube, Ebay, Facebook, MySpace, Fotopic & Strydoedd Caerdydd!
Rhithffurf defnyddiwr
Norman
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1335
Ymunwyd: Mer 10 Medi 2003 6:44 pm
Lleoliad: Porthmadog/Caerdydd

Postiogan silidon » Maw 21 Hyd 2003 3:26 pm

Cwrw Bara Banana!! Mmmm dwi'n gallu i flasu fo o'r ddesg ma wan. Mi ddoish i a llond bwt o'r sdwff adra 'fo fi o Aber wicend dwytha.
Cachupisorhechmyndiawlcaudygeg
Rhithffurf defnyddiwr
silidon
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 34
Ymunwyd: Llun 20 Hyd 2003 7:19 pm
Lleoliad: dan boncan

Postiogan Fatbob » Maw 21 Hyd 2003 4:14 pm

Os yng Nghaerdydd ma peint o Brains Dark da pei Clarks ffres yn wych. Gweitha'r modd dyw Brains ddim yn teithio'n rhy dda, heblaw am yr hen Rev James(Hen rysait Buckleys Llanelli).

Eto ma Felinfoel yn neud diod reit dda mewn potel neu gan ond Feeling Foul yw ei lys-enw ers i mi yfed peint yn ardal Aberaeron.

Tomos Watkin yn un or ffefrynnau, Cwrw Haf yn felys i'r tywydd poeth, OSB am noswaith fawr a phen tost fel Brains SA a peint o Merlin's Stout i dwymo yn y gaeaf. Ma'r un peth yn mynd am beint Wye Valley breweries Dorothy Goodbody's Stout.

Sdim gwell na mynd i'r Wyl Gwrw yng Nghaerydd a gadael yn feddw gaib wedi sawl hanner peint o flasu cwrw gorau Prydain. Er bod barf gen i dwi ddim yn un o'r bois CAMRA yna, ond ma pob math o bobol yn mynychu'r wyl.
How many times do I have to tell you? You don't put a bra in a dryer! It warps!
Rhithffurf defnyddiwr
Fatbob
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 478
Ymunwyd: Maw 21 Hyd 2003 1:38 pm
Lleoliad: Yn y peiriant golchi.

Postiogan Fatbob » Maw 21 Hyd 2003 4:18 pm

Un pwynt bach.

Ma cwrw ffantastig Cwrw Betys(lliw porffor!) a Cwrw Blasus yn cael eu wneud yn Nhafarn to gwellt yn Llanddarog ond, a ma hwn yn ond mawr - MA'R BOBOL YNO'N EITHRIADOL O WRTH-GYMREIG. Gwell pasio'r dafarn a mynd rownd yr Eglwys i'r dafarn nesa, ma croeso da i'w gael yno.
How many times do I have to tell you? You don't put a bra in a dryer! It warps!
Rhithffurf defnyddiwr
Fatbob
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 478
Ymunwyd: Maw 21 Hyd 2003 1:38 pm
Lleoliad: Yn y peiriant golchi.

Postiogan Conyn » Maw 21 Hyd 2003 9:34 pm

Hogyn o Rachub a ddywedodd:
Aaaaach, fedrai'm diodda Brains! Fatha fineg!

(oes'na seidar Gymraeg o gwbl?)


Anghytuno o ran y Brains, rhaid gweud. Lyfli, chan. Gei di ddim gwell diod am gwpwl o beints tawel acha nos Sul, gwêd.

O ran y Seidr...
http://www.welshcider.co.uk/

ac yn enwedig...
http://www.welshcider.co.uk/makesit.htm

Rwy wedi blasu cynnyrch Ralph - eitha da :D
Tri pheth sy'n anodd 'nabod
Dyn, derwen a diwarnod...
Rhithffurf defnyddiwr
Conyn
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 87
Ymunwyd: Sul 19 Hyd 2003 9:07 pm
Lleoliad: Dyfnderoedd y De

Postiogan Norman » Mer 25 Mai 2005 11:09 pm

Norman a ddywedodd:Dwi di darllen yn rwla bo no le neud cwrw yn dod i Borthmadog yn eitha buan, casgen fydd hi dwin ama.


Wedi i mi weithio yn y bragdy yma ha dwytha - mae'r lle bellach wedi gorffen ! 'Bragdy Mŵs Piws Porthmadog' > yn dechra bragu mewn pythefnos - felly mi ddyliai fod mewn tafarndai Llyn ac Eifionydd mis Gorffenaf. Mae'no wefan yma : http://www.purplemoose.co.uk/. Uniaith saesneg ydi hi ar y funud, ond mae'r boi di bod mewn gwersi Cymraeg ers amball fis ac yn dod ymlaen reit dda !

Drychwch allan am y cwrw 'ma dros yr haf! ( gobeithio fod o'n neis ! )

.N.
allan o afal dy gyrraedd dychmygol
|
Chwyliwch amdanai ar Flickr, YouTube, Ebay, Facebook, MySpace, Fotopic & Strydoedd Caerdydd!
Rhithffurf defnyddiwr
Norman
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1335
Ymunwyd: Mer 10 Medi 2003 6:44 pm
Lleoliad: Porthmadog/Caerdydd

Postiogan garathsheli » Llun 30 Mai 2005 10:23 pm

Sdim ots gen i ba un reli, cyn belled bod o leia un ohonyn nhw ar gael! Gormod o lefydd o lawer jyst yn gwerthu Carling/Worthi/Stella yn unig.

Os dwi'n bici, fydd unrhywbeth Brains, Tomos Watkin neu Felinfoel yn mynd lawr yn ffab. Dwi heb gael fawr o brofiad efo'r lleill, ond dwi'n siwr fyswn i yn dwli ar bob un ohonynt!

Fatbob a ddywedodd:Sdim gwell na mynd i'r Wyl Gwrw yng Nghaerydd a gadael yn feddw gaib wedi sawl hanner peint o flasu cwrw gorau Prydain.


Dwi ddim yn foi efo barf, ond edrych mlaen at yr wyl yng Nghaerdydd flwyddyn nesa, am y rheswm uchod.

Plis tafarnwyr, gwerthwch y stwff Cymreig da, yn lle'r cachu o Loegr a'r cyfandir!
<<<<< Fi ar ol un yn ormod!
Rhithffurf defnyddiwr
garathsheli
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 212
Ymunwyd: Gwe 17 Medi 2004 8:26 pm
Lleoliad: Prifysgol Caerdydd

NôlNesaf

Dychwelyd i Bwyd a Diod

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 6 gwestai