Tudalen 1 o 6
Hoff gwrw Cymreig
Postiwyd:
Gwe 17 Hyd 2003 3:24 pm
gan nicdafis
Mae is-deitl y seiat yma yn jôc wrth gwrs, ond mae'n wir bod well 'da fi prynu cwrw Cymru os oes dewis 'da fi - nid am resymau cenedlaetholgar, ond achos fy mod i'n lico cefnogi busnesau lleol.
Felly, beth yw'ch hoff gwrw Cymreig?
Fy enwebiad am y cwrw gorau yw Hen Darw Du gan <a href="http://www.tavern-on-tap.com/acatalog/Tavern_On_Tap_Bragdy_Ceredigion_Brewery_1.html">Fragdy Ceredigion</a>. Mae hyn yn real hedbanger o stowt, 6.2% ond mor esmwyth a phen-ôl Gwyneth Paltrow ar ôl iddi gael ei "Brazilian" misol.
Ym, sori.
Mae hwn yn gwrw da.
Mae'n ar gael trwy'r wefan uchod, ond mae'n anhygoel o ddrud fel 'na. Well i ti ddod lawr i Odre Ceredigion lle ti'n gallu ffeindio fe yn sawl siop lleol (yng Ngarej Brynhoffnant dw i'n arfer prynu fe) am c. £2 y botel.
Mae Blodeuwedd, yr un organig, yn neis hefyd.
Maen nhw i gyd yn hyfryd, dweud y gwir, ond Hen Darw Du yw'r unig un sy'n gyrru i fi feddwl am ben-ôl Gwyneth Paltrow.
Re: Hoff gwrw Cymreig
Postiwyd:
Gwe 17 Hyd 2003 3:30 pm
gan Jeni Wine
nicdafis a ddywedodd:Mae hyn yn real hedbanger o stowt, 6.2% ond mor esmwyth a phen-ôl Gwyneth Paltrow ar ôl iddi gael ei "Brazilian" misol.
ych
Nath gwrw caio neud fi'n dwlalilalababab yn sdeddfod rhyw flwyddyn ond fel arall dwi ddim yn rhy hoff o gwrw. Lager i fi botro. Ne jin de. (mmmm....brecon jin - dim hangovers)
Hei be am drio lager 'Maes Pils'? Mae o'n neis iawn iawn iawn...
Postiwyd:
Gwe 17 Hyd 2003 3:47 pm
gan LosinMelysGwyrdd
Felinfoel Double Dragon - Crazy Mwthwr o ddiod.
Postiwyd:
Gwe 17 Hyd 2003 3:51 pm
gan Rhys
Mae'n well gyda fi yfed cwrw lleol. Dwi ddim yn hoff o'r Tetleys ar Worthingtons. Brains (Original ag Esmwyth) dwi'n yfed rhan fwyaf yng Ngaerdydd, ond dwi'n hoff o rai Plassey pan dwi'n mynd i'r Plough yn Llanelwy.
Dwi wedi synnu cymaint o gwrw gwahanol sy'n cael ei fragu yng Nghymru. Mae'n ymddangos bod adfywiad mawr yn ddiweddar yn y bragdai-meicro. Dyma restr o rai dwi wedi ei gopio o wefan
Gwyl Gwrw a Seidr Caerdydd
Brains
Dark 3.5%
Bitter 3.7%
SA 4.2%
Merlins Oak 4.3%
Reverend James 4.5%
Breadalbane Organic
Cwrw Helygmaer 6.0%
Bryncelyn
Buddy Marvellous 4.0%
Envious Peggy's Brew 4.2%
Jealous Peggy's Brew 4.2%
Oh Boy! 4.5%
Rave On 5.0%
Bullmastiff
Welsh Gold 3.8%
Welsh Red 4.8%
Brindle 5.0%
Gwyl Arbennig 5.0%
Son of a Bitch 6.0%
Mogadog 10.0%
Ceredigion
Ysbryd O Goedwig 3.8%
Cwrw Mel 4.2%
Brown Honey 4.3%
Blodeuydd Organic 4.5%
175 Anniversary Ale 4.5%
Yr Hen Darw Du 6.3%
Cwmbran
Double Hop 4.0%
Crow Valley Stout 4.0%
Four Seasons 4.7%
Felinfoel
Bitter 3.3%
Dark 3.3%
Best 3.8%
Double Dragon 4.2%
Export 6.0%
Plassey
Bitter 4.0%
Cwrw Tudno 5.0%
Swansea
Deep Slade Dark 4.0%
Three Cliffs Gold 4.7%
Pwll Du 4.9%
Original Wood 5.2%
Tomos Watkin
Whoosh 3.7%
BB 4.0%
Merlin's Stout 4.2%
Owain Glyndwr 4.2%
OSB 4.5%
Wye Valley
Braveheart 4.0%
Brew 69 5.6%
Butty Bach 4.5%
Alfred Watkins Triumph 4.5%
DG Wholesome Stout 4.6%
Ynys Mon
Seiriol 3.7%
Amnesia
Postiwyd:
Gwe 17 Hyd 2003 3:59 pm
gan Rhodri Nwdls
Ceredigion
Cwrw Mel 4.2%
Wwww, dwi'n cofio hwno flwyddyn dwetha. Ffycin lysh.
Cwrw gorau - Coopers Pale Ale o Ostrelia.
Postiwyd:
Gwe 17 Hyd 2003 4:08 pm
gan nicdafis
Ro'n i'n dysgu'r boi sy'n cynhyrchu'r mêl ar gyfer hwnna, a rhoddodd e bocs o'r cwrw i mi i rannu yn ein barbiciw-diwedd-y-tymor.
Ces i un botel, hyfryd iawn, mynd yn ôl am botel 'te ac maen nhw i gyd wedi diflannu.
Bastads.
Dim ond merched sy ddim yn yfed cwrw dw i'n gwahodd i'r barbiciw nesa.
Postiwyd:
Gwe 17 Hyd 2003 4:21 pm
gan garynysmon
Welsh Smooth, duw a wyr lle mae o'n dod o, ond dyna fyddai'n yfed yn y glob bob amser.
Postiwyd:
Gwe 17 Hyd 2003 6:08 pm
gan Macsen
Mi ges i beint o Old Tom's yn y park vaults neithiwr.
Y concoction mwyaf ffiaidd a erchyll dw i erioed wedi ei yfed yn fy mywyd. Bu bron i fi daflu fyny yn fy narlith bore 'ma!
Damo ti Old Tom's!!!
Postiwyd:
Gwe 17 Hyd 2003 6:19 pm
gan Geraint
Triwch y cwrw almaeneg yn y Chapter, chi sydd yn Gaerydd, ma nhw'n hyfyrd.
Tra'n sirad am gwrw yno neithiwr, dath rhywun allan a'r lein yma sydd yn lyric o gan tystion dwi'n meddwl:
Wrexham Lager,
mor Gymreig a Wagner
Gafodd ei ddechrau gan glowyr o Dywrian Ewrop yn ol pob son, ac yw lager hynaf Cymru. Unry un yn gwybod mwy?
Postiwyd:
Gwe 17 Hyd 2003 6:59 pm
gan LosinMelysGwyrdd
Faith i chi am yr hen Felinfoel - y cwrw cynta' i gael ei ddodi mewn can i yfed - cal ei anfon i'r milwyr i yfed yn ystod y rhyfel byd cyntaf.