Tudalen 3 o 6
Postiwyd:
Llun 30 Mai 2005 10:49 pm
gan Mwnci Banana Brown
garathsheli a ddywedodd:Dwi heb gael fawr o brofiad efo'r lleill, ond dwi'n siwr fyswn i yn dwli ar bob un ohonynt!
Achos dim ond 16 wy ti a achos mae max o 2 peint ti'n gallu handlo pob nos falle?!
Postiwyd:
Llun 30 Mai 2005 10:53 pm
gan Dai dom da
Mwnci Banana Brown a ddywedodd:garathsheli a ddywedodd:Dwi heb gael fawr o brofiad efo'r lleill, ond dwi'n siwr fyswn i yn dwli ar bob un ohonynt!
Achos dim ond 16 wy ti a achos mae max o 2 peint ti'n gallu handlo pob nos falle?!
Ie gareth ychan, ti ffili handlo 'shandy' yn deidi so ma 2 beint yn KO i ti!!
Postiwyd:
Mer 01 Meh 2005 8:59 am
gan Rhys
Mae boi oedd yn ysgol gyda fi am ddechrau bragdy yn Nimych o'r enw
Bragdy'r Bryn. Edrych ymlaen. Roedd yna fragdy bychan yn y dref yn y 90'au ond roedd hyn cyn i mi gael blas ar gwrw ac mae'r lle wedi cau rwan (nid mod i'n awgrymu byddwn i wedi gallu cadw'r lle i fynd ar ben fy hun!)
Postiwyd:
Mer 01 Meh 2005 12:44 pm
gan rhy ddiog i cofio fy enw
cArreg yn cwrw neis ond ddim yn cael chi yn feddw digon cyflun a cwrw eraill ges i tua 8 botel dim ond tipsy oeddwn i yn ty tawe.
Postiwyd:
Mer 01 Meh 2005 2:33 pm
gan Dai dom da
Aye, Cwrw Carreg yn neis whareteg. Yfes i peil o rhein yn steddfod genedlaethol blwyddyn diwetha. A na, nes i ddim ffeindio'r stwff mor gryf a na chwaith.
Postiwyd:
Iau 02 Meh 2005 4:44 pm
gan Dai dom da
Mwnci Banana Brown a ddywedodd:garathsheli a ddywedodd:Dwi heb gael fawr o brofiad efo'r lleill, ond dwi'n siwr fyswn i yn dwli ar bob un ohonynt!
Achos dim ond 16 wy ti a achos mae max o 2 peint ti'n gallu handlo pob nos falle?!
Glywes i bod rhywun arall wedi ffili handlo cwpwl o beints neithwr, eh mwnci?
Haha, stuffed!
Postiwyd:
Sul 05 Meh 2005 2:22 pm
gan Mwnci Banana Brown
Gwd E!!
Postiwyd:
Sul 05 Meh 2005 3:04 pm
gan nicdafis
Rhaid dweud, ar ôl cael llond fy mola o <a href="http://news.bbc.co.uk/welsh/hi/newsid_3690000/newsid_3698200/3698214.stm">Gwrw Evan Evans</a> neithiwr yn y Ship, ei fod e'n gwrw sesiwn arbennig. Bron dim penmawr y bore 'ma, a heb grasho yn y prynhawn chwaith. Wel, dim eto.
Postiwyd:
Mer 08 Meh 2005 10:26 pm
gan Cartwn 'head
Conyn a ddywedodd:Brains SA - 'cic fatha mul, blas fatha wermod, pen fatha bwcad y bore wedyn'
Cytuno. Er y blas fel wermod gan fod cymaint o gic ynddo mae fel mel ar ol yr hanner peint cynta, Eglurhad am y pen yn y bore!
Dyn cwrw chwerw ydw i fel arfer, ond ar adegau doedd fawr i guro Lager Wrecsam. RIP
Postiwyd:
Iau 09 Meh 2005 4:53 pm
gan rhy ddiog i cofio fy enw
Mae brains gallu bod yn iawn jest bod o yn cymryd oes yw yfed. yn clwb ifor un tro roeddwn wedi yfed 1/2 peint mewn haner awr. felly wnes i rhoi give up ac yfed stella sydd yn ffycin drud. gai ddweud.
sioced iawn bod Ramirez heb ddweud rhywbeth am gwrw.