Tudalen 4 o 6

PostioPostiwyd: Mer 08 Meh 2005 10:26 pm
gan Cartwn 'head
Conyn a ddywedodd:Brains SA - 'cic fatha mul, blas fatha wermod, pen fatha bwcad y bore wedyn'


Cytuno. Er y blas fel wermod gan fod cymaint o gic ynddo mae fel mel ar ol yr hanner peint cynta, Eglurhad am y pen yn y bore!

Dyn cwrw chwerw ydw i fel arfer, ond ar adegau doedd fawr i guro Lager Wrecsam. RIP

PostioPostiwyd: Iau 09 Meh 2005 4:53 pm
gan rhy ddiog i cofio fy enw
Mae brains gallu bod yn iawn jest bod o yn cymryd oes yw yfed. yn clwb ifor un tro roeddwn wedi yfed 1/2 peint mewn haner awr. felly wnes i rhoi give up ac yfed stella sydd yn ffycin drud. gai ddweud.

sioced iawn bod Ramirez heb ddweud rhywbeth am gwrw.

PostioPostiwyd: Mer 16 Awst 2006 4:42 pm
gan Geraint
Pwy yfodd Cwrw Eisteddfod gan Tomos Watkin yn y sdeddfod? Gorjys!

Darganfyddais cwrw Cymreig arall neithiwr yn y Fic, Felinheli. Cwrw Castell gan Bragdy Conwy. Roedd hwn hefyd yn chwerw hynod o flasus.

PostioPostiwyd: Mer 16 Awst 2006 4:46 pm
gan Rhys
Heb glywed am y Bragdy yn o'r blaen geraint, dewis da gyda nhw (ac enwau da hefyd) yn ôl y wefan. Dwi wedi dod ar draws sawl cwrw Cymreig yn ddiweddar a prynnais lyfr 'Cwrw Cymru' yn y 'steddfod. Heb ei ddarllen eto, ond mae gan Lyn Ebenezer ac wedi ei gyhoeddi gan Wasg Carreg y Gwalch

PostioPostiwyd: Mer 16 Awst 2006 8:37 pm
gan Gwahanglwyf Dros Grist
Geraint a ddywedodd:Pwy yfodd Cwrw Eisteddfod gan Tomos Watkin yn y sdeddfod? Gorjys!

Darganfyddais cwrw Cymreig arall neithiwr yn y Fic, Felinheli. Cwrw Castell gan Bragdy Conwy. Roedd hwn hefyd yn chwerw hynod o flasus.


Ges i gwpwl o beints o Dawns Haul yn... un o dafarndai Bangor Ucha' llynedd ar brynhawn Sadwrn ola'r Steddfod. Yr un sydd ar yr un ochr o'r stryd â Greeks, tua 50 metr lan i'r dde.

PostioPostiwyd: Gwe 25 Awst 2006 12:04 pm
gan Geraint
31 Awst i 7 Medi: Tap and Spile, Bangor (wrth ymyl y Pier)

I ddathlu fod yn dafarn real ale 2006 CAMRA Eryri a Mon, fe fydd yna 7 cwrw Cymreig casg ar werth.

Nai drio fynd draw i 'adolygu' ar rhan y maes!

PostioPostiwyd: Gwe 25 Awst 2006 1:06 pm
gan Mihangel Macintosh
Be sydd wedi digwydd i Cwrw Carreg?

Ydi nhw wedi mynd yn fethdalwyr?

PostioPostiwyd: Mer 06 Medi 2006 11:36 am
gan Geraint
Heb gweld Cwrw Carreg am sbel :?

Wedi bod i'r Tap and Spile, lle oedd dewis fawr o gwrw, er dim pob un yn Gymraeg fel dwedes i uchod.

Dyma be dries i, efo sgor allan o ddeg!

Archers (Swindon) - Farmers Boy 7
Bragdy Mws Piws - Cwrw Madog 8
Bragdy Conwy - Sundance 8
George Wright - Golden Daze 9
Salopian - Lemon Dream 2

Golden Daze oedd y mwy blasus, mws piws yn agos. Lemon Daze yn chwerw efo blas lemwn. Y broblem i mi oedd mae ond blas lemon gwan oedd iddo, a dim byd arall. Alle ni yfed e, ond dwi isho chwerw blasu fel chwerw!

PostioPostiwyd: Mer 06 Medi 2006 11:52 am
gan Cymro13
Cwrw Haf Thomos Watkins di'r boi - Cofio cal all dayer ar y stwff yn steddfod a deffro lan bore wedyn heb Hangover - class

PostioPostiwyd: Mer 06 Medi 2006 12:14 pm
gan Sili
Peint o Brains efo cinio poeth a llyfr yn y Goat yng Nghaerdydd - 'sdim byd gwell!

Fel arall cwrw mel a cwrw dathlu Bragdy Conwy, allwni yfad boteli or hyfrytbeth drwy'r dydd, pob dydd :D

Mae'r Miws Piws yn gwrw swni'n lecio medru dod i arfer efo'n iawn hefyd, jest anodd i yfed yn gyflym braidd.