Tudalen 5 o 6

PostioPostiwyd: Mer 06 Medi 2006 3:06 pm
gan Mihangel Macintosh
Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:
Geraint a ddywedodd:Pwy yfodd Cwrw Eisteddfod gan Tomos Watkin yn y sdeddfod? Gorjys!

Darganfyddais cwrw Cymreig arall neithiwr yn y Fic, Felinheli. Cwrw Castell gan Bragdy Conwy. Roedd hwn hefyd yn chwerw hynod o flasus.


Ges i gwpwl o beints o Dawns Haul yn... un o dafarndai Bangor Ucha' llynedd ar brynhawn Sadwrn ola'r Steddfod. Yr un sydd ar yr un ochr o'r stryd â Greeks, tua 50 metr lan i'r dde.


Bell Vue 'chan.

PostioPostiwyd: Mer 29 Awst 2007 12:15 pm
gan Geraint
Mae cwrw Pen-lono Lanarth, Ceredigion, yn hyfryd iawn iawn allan o'r botel.

PostioPostiwyd: Mer 29 Awst 2007 1:41 pm
gan Rhodri Nwdls
Geraint a ddywedodd:Mae cwrw Pen-lono Lanarth, Ceredigion, yn hyfryd iawn iawn allan o'r botel.

Yr Honey Heather Ale ganddyn nhw ydi'r gorau. Dio'm yn sôn amdano ar eu gwefan ond diawl ma'n gorjys. Blas ac arogl bendigedig, a ddim rhy gryf ar 4.2%. Ma nhw'n ei werthu fo yn Ultracomida, Aberystwyth.

Roedd Cwrw'r Awen Tomos Watkin yn Steddfod yn hyfryd hefyd.

PostioPostiwyd: Iau 06 Rhag 2007 8:43 pm
gan Dili Minllyn
Wrth ystyried pa ddiodydd i'w prynu ar gyfer y Nadolig, mi sylwais i fod Co-op Heol y Crwys, Caerdydd, yn gwerthu poteli o gwrw Bragdy Rhymni - danteithion prin y dylai mwy o bobl wybod amdanyn nhw; Tomos Watkin, gan gynnwys Cwrw Gaeaf i gynhesu'r galon; a bocs gyda chyrfau o Gymru, Lloegr, a'r Alban: Felinfoel, Cwrw Caerfaddon, ac alla-i-ddim-cofio-beth-arall.

PostioPostiwyd: Gwe 07 Rhag 2007 5:26 pm
gan Rhys
Dili Minllyn a ddywedodd:Wrth ystyried pa ddiodydd i'w prynu ar gyfer y Nadolig, mi sylwais i fod Co-op Heol y Crwys, Caerdydd


Os ti'n hoffi Cwrw go iawn, mentro fyny'r ffordd i'r Discount Supermarket ddim yn bell o gylchfan Gabalfa. Mae dewis ardderchog yno o boteli Cwrw, llawer o rai Cymreig gynnwys Bradgy Rhymni, Pen-lon, Otley (mmm!) Tomos Watkin a rhywbeth tebyg i 'Fragdy'r Barcud Coch'.

PostioPostiwyd: Gwe 07 Rhag 2007 9:41 pm
gan dewi_o
Diolch hogia.

Fyddai'n Nghaerdydd yfory yn stocio lan ar Rhymney Bitter a Rhymney Export ar gyfer y Nadolig.

Re: Hoff gwrw Cymreig

PostioPostiwyd: Llun 03 Maw 2008 3:25 pm
gan finch*
Ma'n rhaid dweud taw Celtic Gold y Cwps yw un o, os nad y peint gore yn Aberystwyth dyddie ma. Ges i beint o Guinness yna dydd sadwrn fyd (training ar gyfer mynd i Iwerddon dydd Gwener) ac odd honna'n lyfli fyd. Ma Gwer yn gwbod shwt i edrych ar ol y peips. Se ni'n lico trio mwy o'r pwmps random sydd yn y Ship and Castle bob mis ond pasio drwyddo ar ddydd Sadwrn fyddwn ni fel arfer a dim dyna'r amser gore i arbrofi gyda peints sy mor drwm a charreg a alle fod yn blasu fel diesel.

Re: Hoff gwrw Cymreig

PostioPostiwyd: Sul 17 Awst 2008 9:29 pm
gan Ar Mada
Cymro13 a ddywedodd:Cwrw Haf Thomos Watkins di'r boi


Ai ai! Wrth fy modd efo hwn! Ar werth yn Co-op mewn poteli, lyfli! Dim yn keen ar y Cwrw Braf ddo, rhy drwm a thywyll i mi.

Oes cwmni yng Nghymru yn gwneud medd?

Re: Hoff gwrw Cymreig

PostioPostiwyd: Llun 18 Awst 2008 8:38 am
gan Mr Gasyth
Wedi confertio i Brains ers symyd i Gaerdydd. S.A yn neis, ond y Gold ydi'r gore!

Re: Hoff gwrw Cymreig

PostioPostiwyd: Llun 18 Awst 2008 11:25 am
gan finch*
Mr Gasyth a ddywedodd:Wedi confertio i Brains ers symyd i Gaerdydd. S.A yn neis, ond y Gold ydi'r gore!


Dwi wedi bod nol ar y bitter ers diwedd tymor brifysgol a ma'n rhaid dweud bod Rev James wedi dod yn ffefryn gyda fi. Mynd lawr yn haws na'r Brains' eraill.