Tudalen 6 o 6
Re: Hoff gwrw Cymreig
Postiwyd:
Llun 18 Awst 2008 2:26 pm
gan Maelor
finch* a ddywedodd:Mr Gasyth a ddywedodd:Wedi confertio i Brains ers symyd i Gaerdydd. S.A yn neis, ond y Gold ydi'r gore!
Dwi wedi bod nol ar y bitter ers diwedd tymor brifysgol a ma'n rhaid dweud bod Rev James wedi dod yn ffefryn gyda fi. Mynd lawr yn haws na'r Brains' eraill.
Mae Rev James yn berryg bywyd. Local fi newydd gael o wedi'w rhoi i fewn. Ar ol un pnawn ar hwnnw dwi BYTH yn yfed o eto. Neis ond iesu (no pun intended) mae'n gryf - 4.9%.
Gold yn wychder
Re: Hoff gwrw Cymreig
Postiwyd:
Mer 20 Awst 2008 10:31 am
gan finch*
Aye, deceptive yw'r hen Weinidiog Jams. Dwi'n brin o arian ar hyn o bryd felly heb gael siawns i gal sesiwn arno fe eto.
Peth arall diddorol dries i yn Grdydd odd Guinness Red. Blasu fel Guinnes ond taw bitter yw e. Odd e'm yn ffol o gwbwl wedi disgwyl rhyw Frankenstein yn yr un mowld a Brains 45.
Re: Hoff gwrw Cymreig
Postiwyd:
Iau 21 Awst 2008 5:29 pm
gan Maelor
Wel cysgu'n braf yn gadair oeddwn i ar ol ambell i beint yn ormod o'r anghenfil cryf a elwir y Rev James. Dwn i'm pa enwad oedd o'n pregethu ond rhaid bod nhw'n bobl caled!
Guinness Red yn neis, a rhaid i mi ddweud fy mod wedi mwyhau'r Brains 45 hefyd, rhywbeth refereshing neis amdano.
Re: Hoff gwrw Cymreig
Postiwyd:
Llun 06 Gor 2009 11:14 am
gan Mr Gasyth
Yn ddiweddar, wedi dod ar draws:
Rhymney Bitter - hyfryd o sdwff, torri syched fel dim arall. Mae yna Bevans Bitter o'r un bragdy ond doeddwn i ddim mor cin ar hwnnw.
Crow Valley Ale o Fragdy Cwmbran. Ddim yn cin o gwbl - yn wir methes i orffen y botel.
Toway Ale a Cothi Gold o Fragdy Ffos y Ffin. Rhain ar gael yn ASDA Leckwith ers ychydig wythnosdau. Hyfryd iawn ill dau ond rhaid bod yn ofalus o'r burum yng ngwaelod y botel!
Re: Hoff gwrw Cymreig
Postiwyd:
Llun 06 Gor 2009 10:45 pm
gan Duw
1. Felinfoel Double Dragon
2. Brains Dark
3. Brains S.A.
4. Rev. James
Mae rhai Tomos Watkin hefyd yn neis. Methu รข godde Crow Valley, a'r rhai o Rymni. 'Cwrw Cachu Cymru' yw'r medal rodden i i'r rhain.
Er yr uchod fy ffefryn oedd Buckleys. Gwynto fel pen-ol y diawl ei hunan, ond bois bach, roedd fel yfed cwrw Dad (atgofion melys, er blas chwerw).
Sylwi 'sneb wedi rhoi Wrexham Lager lawr 'ma! Dyna beth odd diod werth wech - ych.
Re: Hoff gwrw Cymreig
Postiwyd:
Llun 06 Gor 2009 11:30 pm
gan osian
Dwinna'n licio rev james a tomos watkin. gesh i beint o Hen Drwyn wsos o blaen fyd. dwim yn shwr pwy sy'n gneud hwnnw. golew oedd o
Re: Hoff gwrw Cymreig
Postiwyd:
Maw 07 Gor 2009 4:13 pm
gan finch*
Ges i beint o Cwrw HAf Tomos Watkins wthnos o'r blan, yn ffrindie i gyd yn mynd mlan amdano fe. Odd e'n iawn ond dim byd sbeshal yn bersonol. Falle effaith yr hype sai'n gwbod?
Re: Hoff gwrw Cymreig
Postiwyd:
Mer 08 Gor 2009 10:14 pm
gan Gwahanglwyf Dros Grist
Ar Mada a ddywedodd:Cymro13 a ddywedodd:Cwrw Haf Thomos Watkins di'r boi
Ai ai! Wrth fy modd efo hwn! Ar werth yn Co-op mewn poteli, lyfli! Dim yn keen ar y Cwrw Braf ddo, rhy drwm a thywyll i mi.
Oes cwmni yng Nghymru yn gwneud medd?
Hwyr, mi wn, ond...
http://lmgtfy.com/?q=welsh+mead
Re: Hoff gwrw Cymreig
Postiwyd:
Llun 02 Tach 2009 1:43 pm
gan Rhys
Ar hyn o bryd, faswn i'n dweud fy hoff gwrw Cymreig yw unhybeth gan Otley's (yn arbennig O Garden) neu gan Vale of Glamorgan (yn arbennig Wheats Occurin?)
Geraint a ddywedodd:Gyda llaw, ma llyfr Lyn Ebenezer,
'Cwrw Cymru', yn ddiddorl iawn am hanes bragu cwrw, sydd be sa chi'n diswgyl ar ol blynyddoedd o ymchwil!
Wedi darllen hwn, mae o'n ddifyr dros ben a hadd ei ddarllen
Geraint a ddywedodd:Oes rhywyn yn gwybod am fragdu sydd yn cynnig taith o'i gwmpas?
Mae anghenau lleol CAMRA yn tueddu i drefnu teithiau. Tua pythefnos yn ol, aeth cangen CAMRA Cardydd o gwmpas bragdai Abertawe.