Grwp ohonom yn mynd lan i Llyn hos fory a mo'yn bach o pub crawl ar draed - ydy hyn yn bosib yn yr ardal hon? B le cawn ni ddiodydd a chwmni Cymraeg?
Re: Llrfydd i yfed nefyn / Morfa Nefyn
Postiwyd: Gwe 19 Chw 2010 8:44 am
gan CORRACH
Crôl? Oes gen ti dacsi?! Crôl ddim yn bosib iawn ar draed os nad ei di i Bwllheli (paid) neu Abersoch (posib) mewn tacsi yn y lle cynta.
Mae Gwesty Nanhoron yn Nefyn. Dwi ddim yn *meddwl* fod y Sportsman ar agor dyddia 'ma. Yr agosaf wedyn ydi Bryncynan neu draw i Edern.
Os am gwmni Cymraeg, be am geisio llogi tacsi am y nos i fynd i Aberdaron (dwy dafarn) neu'r Fic yn Llithfaen hyd yn oed. Weithiau mae ychydig dafarnau yn well . . . . !