Ar tap-

Gwell cwrw Cymru na llaeth Lloegr?

Cymedrolwr: Jeni Wine

Rheolau’r seiat
Lle i drafod pob dim sy'n ymwneud â Bwyd a Diod. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Pa un chi'n yfed - a pham?

Chwerw
3
23%
Lager
7
54%
Seidir
1
8%
Stowt
2
15%
 
Cyfanswm pleidleisiau : 13

Ar tap-

Postiogan Cardi Bach » Maw 21 Hyd 2003 2:03 pm

Pa un fyddwch chi'n yfed a pham?
Falle bo chi'n lico pob un - ond p'run yw'ch ffefrun?
Ma cymysgu'n hwyl fyd - Chinese, Snake-bite/Disel Coch, Black-Velvet dyn tlawd ayb.
Gallwch chi son am alcopops neu win neu wirodydd os chi am ond am wn i gall edefyn arall ga'l i wneud ermwy rhynna - stwff ar tap/pwmp fi moyn gwbod am.

Yfa i'r pedwar yn ddigon hawdd, ond mae'n dibynnu ar amser y flwyddyn. Seidir oer ar ddwrnod braf o haf mmmmmmmm
Guinness ...unrhyw bryd mmmmmmmmmmmmm

Wy'n credu fod chware ambythdi gormod gyda Ginis yn ei sbwylo fe, ond eto ma Ginis oer yn ffein ar y diawl fyd.
Rhithffurf defnyddiwr
Cardi Bach
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2694
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 7:54 am
Lleoliad: Gal

Postiogan Gimpster » Maw 21 Hyd 2003 2:19 pm

dim byd well gennai na cwpwl o beints o Bulmers, o'r potel wrth gwrs wedi eu arllwys i gwydr llawn ia! Neu beth ma rhai pobl yn eu alw fe "bummers"
Rhithffurf defnyddiwr
Gimpster
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 205
Ymunwyd: Llun 11 Tach 2002 1:31 pm
Lleoliad: uffern

Postiogan Fatbob » Maw 21 Hyd 2003 2:38 pm

Haff o lager siandi a dash o leim i fi bob tro. Reial diod i ddyn. Grrrrrr. Bwtsh.
How many times do I have to tell you? You don't put a bra in a dryer! It warps!
Rhithffurf defnyddiwr
Fatbob
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 478
Ymunwyd: Maw 21 Hyd 2003 1:38 pm
Lleoliad: Yn y peiriant golchi.

Postiogan Barbarella » Maw 21 Hyd 2003 2:49 pm

Mi o'n i'n yfed dim byd ond seidr a blac pan o'n i'n ysgol - stopiodd hwnna ar ôl sesiwn wedi ymweliad â'r sinema - dyw chwydu popcorn pinc ddim yn bleserus.

Wedyn jyst seidr strêt am flynyddoedd ond erbyn diwedd o'n i'n gallu teimlo fe'n pydru 'nhu fewn i, ac es i ar y lager yn lle. Byth wedi cael blas arno fe o'r blaen - am fod lager tap tafarndai cachlyd Aber ar y pryd yn ffiaidd siwr o fod - ond ges i droedigaeth pan ffeindiais i mas bod na lagers lyfli i'w cael mewn poteli bach pert.

Ddim wedi cyffwrdd yn y seidr ers 'ny - wel ddim tan ges i lond ceg o beint prynodd kiki i fi yn ddiweddar. Mae hi'n ffrind mor dda bod hi heb brynu peint i fi ers blynyddoedd, mae'n amlwg, ac yn meddwl mod i dal i yfed seidr... :rolio:
Rhithffurf defnyddiwr
Barbarella
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2289
Ymunwyd: Gwe 05 Medi 2003 3:15 pm
Lleoliad: Gyda'r gogs

Postiogan cythralski » Maw 21 Hyd 2003 2:53 pm

Mae'r rhan fwya o lager 'tap' yn blasu fel shite.

Hoegaarden di'r unig un dwi'n trystio.

Poteli yw'r unig ffordd.
...and you can tell 'Rolling Stone' magazine that my last words were....
Rhithffurf defnyddiwr
cythralski
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 595
Ymunwyd: Llun 24 Chw 2003 4:44 pm
Lleoliad: Ar goll yn y gofod

Postiogan Barbarella » Maw 21 Hyd 2003 3:06 pm

cythralski a ddywedodd:Poteli yw'r unig ffordd.

Cytuno, ond da chi, peidiwch credu'r rybish ma pobl yn dweud bod poteli yn well achos bod llai o germs a ballu ynddyn nhw na gei di mewn peint.

Wedi gweithio mewn sawl tafarn, dwi di sylwi bod cathod yn ymddiddori'n fawr mewn piso dros crêts o boteli cwrw yn iards y pybs a'r bragdai.

Weipiwch ceg y botel na cyn yfed!

(Neu falle dyma pam mai cwrw potel yn blasu'n well? :ofn: )
Rhithffurf defnyddiwr
Barbarella
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2289
Ymunwyd: Gwe 05 Medi 2003 3:15 pm
Lleoliad: Gyda'r gogs

Postiogan nicdafis » Maw 21 Hyd 2003 3:23 pm

Cwrw go iawn os ydy e ar gael, Guinness os nad ydyw. Sa i wedi yfed sneicbeit ers fy mhenblwydd yn 18. Lagar os ydw i'n despret, neu falle ar ddiwrnod sych iawn.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan Leusa » Mer 22 Hyd 2003 8:11 pm

Snecbeit neu seidar blac fel arfer, ambell i beint o lager bob yn hyn a hyn am change. Cytuno efo'r chwd pinc Barbarella - ma reit amiwsing hefyd.
o meri an meri an meri an se dore mi jac y do jac y do galileo mi mi mi galileo mi mi mi
Rhithffurf defnyddiwr
Leusa
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3035
Ymunwyd: Gwe 28 Chw 2003 11:52 pm


Dychwelyd i Bwyd a Diod

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 11 gwestai